Neidio i'r prif gynnwy

Datganiad ar achos Clade I Mpox yn y DU

30 Hydref 2024

Dywedodd Wendi Shepherd, Ymgynghorydd Arweiniol mewn Diogelu Iechyd/Dirprwy Gyfarwyddwr Diogelu Iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ymwybodol o’r achos o Clade I Mpox a adroddwyd yn Lloegr.  Gallwn gadarnhau nad oes unrhyw achosion Clade I Mpox wedi'u hadrodd yng Nghymru ar hyn o bryd.

“Rydym yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru, Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU (UKHSA), Iechyd Cyhoeddus yr Alban, ac Asiantaeth Iechyd Cyhoeddus Gogledd Iwerddon, ac rydym yn barod i ymateb i achosion o Clade I Mpox yng Nghymru pe baent yn digwydd.    

“Mae’r risg gyffredinol i boblogaeth y DU o Mpox yn parhau’n isel. 

“Mae symptomau cyffredin Mpox yn cynnwys brech ar y croen neu friwiau llawn crawn a all bara sawl wythnos.  Gall hefyd achosi twymyn, pen tost /cur pen, poenau yn y cyhyrau, poen cefn, egni isel a nodau lymff chwyddedig. 

Os byddwch yn datblygu unrhyw symptomau o Mpox, a'ch bod wedi teithio i ganolbarth Affrica yn ddiweddar neu os ydych wedi bod mewn cysylltiad ag achos wedi'i gadarnhau o Mpox Clade I, ffoniwch GIG 111 neu ffoniwch eich meddyg teulu am asesiad. 

“Peidiwch â mynd i gyfleuster gofal iechyd oni bai bod gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn eich cyfarwyddo i wneud hynny.”

Mae achosion o Mpox yn y DU, gan gynnwys yng Nghymru, yn cael eu hadrodd ar wefan UKHSA.