Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wrthi'n ymchwilio i saith achos wedi'u cadarnhau o Hepatitis A ymhlith pobl sy'n byw ym Mro Morgannwg.
Mae datgan yr achosion yn dilyn lledaeniad yr haint y tu hwnt i glwstwr o bum achos a arweiniodd at sesiynau brechu diweddar mewn ysgolion ym Mhenarth a’r Barri.
Nid yw'r ddau achos newydd o Hepatitis A ymhlith plant sy'n mynd i'r un o'r ysgolion hyn, ac mae gan y ddau achos gysylltiadau uniongyrchol â'r pum achos gwreiddiol.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn parhau i gydweithio'n agos â Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro a'r tîm iechyd amgylcheddol mewn Gwasanaethau Rheoleiddio a Rennir (SRS) Cymru er mwyn ymchwilio i'r achos a chynnig cyngor i gysylltiadau agos y cleifion.
Meddai Dr Rhianwen Stiff, Ymgynghorydd Rheoli Clefydau Trosglwyddadwy Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Gellir cysylltu'r holl gleifion y cadarnhawyd bod ganddynt Hepatitis A â'i gilydd, ac nid oes tystiolaeth o risg ehangach i iechyd y cyhoedd ar hyn o bryd.
"Mae Hepatitis A yn haint feirysol a all achosi salwch tebyg i'r ffliw neu anhwylder gastroberfeddol. Gall Hepatitis A gall fod yn annymunol, ond nid yw'n ddifrifol fel arfer ac mae'r rhan fwyaf o bobl yn gwella'n llawn o fewn ychydig fisoedd. Yn aml, dim ond salwch ysgafn fydd plant yn ei gael neu ni fydd ganddynt unrhyw symptomau o gwbl.
“Y ffordd orau o atal yr haint rhag lledu yw annog golchi dwylo'n dda bob amser, yn enwedig ar ôl defnyddio'r toiled a chyn paratoi neu fwyta bwyd.
"Gall symptomau gynnwys salwch tebyg i ffliw fel blinder, poenau cyffredinol, pen tost a thwymyn, yn ogystal â cholli archwaeth, cyfog neu chwydu, poen yn y bol, y clefyd melyn, troeth tywyll iawn a chroen coslyd.”
Cynghorir pobl i gysylltu â'u meddyg teulu eu hunain neu ffonio Galw Iechyd Cymru ar 0845 46 47 os bydd ganddynt unrhyw bryderon am eu hiechyd neu iechyd eu plentyn.