Cyhoeddwyd: 30 Tachwedd 2022
Mae data newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn disgrifio darlun cymhleth o gamddefnyddio sylweddau yng Nghymru, sy'n arwain at fwy o dderbyniadau i'r ysbyty ar gyfer cyflyrau penodol i alcohol a mwy o farwolaethau o ddefnydd problemus o alcohol a defnyddio cyffuriau anghyfreithlon.
O gymharu â 2019-20, canfu adroddiad Cloddio Data Cymru: Proffil Blynyddol o Gamddefnyddio Sylweddau fod derbyniadau i'r ysbyty ar gyfer cyflyrau penodol i alcohol wedi cynyddu 5.5 y cant, ac roedd derbyniadau ar gyfer y defnydd o gyffuriau anghyfreithlon wedi gostwng 12.8 y cant. Gan adlewyrchu tueddiadau diweddar, cafodd tua dwywaith cymaint o bobl eu derbyn i'r ysbyty ar gyfer cyflyrau sy'n benodol i alcohol o gymharu â'r defnydd o gyffuriau anghyfreithlon.
Mae’r data yn ychwanegu at y dystiolaeth sydd eisoes yn gynhwysfawr sy'n dangos perthynas glir rhwng camddefnyddio sylweddau ac amddifadedd cymdeithasol.
Roedd cyfran y cleifion a dderbyniwyd i'r ysbyty ar gyfer cyflyrau sy'n benodol i alcohol 3.2 gwaith yn uwch i'r rhai sy'n byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig o gymharu â'r rhai lleiaf difreintiedig. Mae'r ffigur ar gyfer derbyniadau i'r ysbyty sy'n gysylltiedig â'r defnydd o gyffuriau anghyfreithlon hyd yn oed yn fwy amlwg, gyda 5.9 gwaith cymaint o bobl yn cael eu derbyn i'r ysbyty o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig o gymharu â'r lleiaf difreintiedig.
Mae lefelau o amddifadedd cymharol hefyd yn cael eu hadlewyrchu mewn ffigurau marwolaethau ar gyfer y defnydd o alcohol a chyffuriau anghyfreithlon, gyda'r rhai yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yn anghymesur yn fwy tebygol o farw oherwydd camddefnyddio sylweddau.
Mae'r cynnydd o 5.5 y cant yn nifer y derbyniadau i'r ysbyty yn sgil cyflyrau sy'n benodol i alcohol yn tynnu sylw pellach at arsylwadau a wnaed yn ystod pandemig Covid-19, lle nododd arolygon iechyd poblogaeth amrywiol lefelau uwch o ddefnydd o alcohol ymhlith yr yfwyr trymaf.
Mae canfyddiadau eraill o'r proffil yn cynnwys:
Mae Cloddio Data Cymru: Y Proffil Blynyddol o Gamddefnyddio Sylweddau 2021-22 yn defnyddio data o amrywiaeth o ffynonellau gan gynnwys: Iechyd a Gofal Digidol Cymru, Cronfa Ddata Lleihau Niwed (HRD) Cymru, Cronfa Ddata Genedlaethol Cymru ar Gamddefnyddio Sylweddau (WNDSM), Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS), gwasanaethau Addysg Awdurdodau Lleol a data'r Swyddfa Gartref. Mae'r adroddiad hwn wedi'i fwriadu i'w ddefnyddio ochr yn ochr ag adroddiad Camddefnyddio Sylweddau Llywodraeth Cymru ar ddata triniaethau ar gyfer yr un cyfnod i roi proffil cyflawn o raddfa a natur camddefnyddio sylweddau, yn gyffuriau ac alcohol, yng Nghymru.