Cyhoeddwyd: 27 Tachwedd 2025
Mae mewnwelediadau ethnigrwydd cynhwysfawr a dadansoddiadau grŵp blwyddyn llawn yn ôl awdurdod lleol bellach ar gael fel rhan o ddangosfwrdd Iechyd Cyhoeddus Cymru o arolwg ysgolion uwchradd y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion, gan alluogi defnyddwyr i gael gwybodaeth gyfoethocach a mwy manwl am eu hysgol.
Mae'r dangosfwrdd, sy'n defnyddio gwybodaeth a ddarparwyd gan filoedd o blant ysgol mewn arolwg a gynhaliwyd mewn 200 o ysgolion uwchradd a gynhelir ledled Cymru, yn cael ei redeg bob dwy flynedd ac mae'r diweddariad hwn yn dod â'r diweddariadau olaf o arolwg 2023 i ben.
Mae'r data ethnigrwydd ar gael ar gyfer pob pwnc lle nad yw data wedi'i atal oherwydd niferoedd bach, felly gall defnyddwyr chwilio ar yr amrywiaeth eang o ddangosyddion sydd wedi'u cynnwys ar y dangosfwrdd, sy'n edrych ar bob elfen o iechyd corfforol a meddyliol mewn ysgolion.
Mae data grŵp blwyddyn yn ôl lefel awdurdod lleol hefyd ar gael nawr ar draws yr holl bynciau, boed yn rhai newydd neu'n rhai sy’n bodoli eisoes. Felly gellir dadansoddi gwybodaeth yn ôl blynyddoedd 7-11 ym mhob ardal awdurdod lleol a'i chymharu ar draws canlyniadau o arolygon blaenorol.
Un enghraifft o'r mewnwelediadau o'r gwelliant diweddaraf hwn i'r dangosfwrdd yw bod bron i 50 y cant o ferched o ethnigrwydd gwyn neu gymysg yn 2023 wedi dangos lefelau uchel o broblemau emosiynol, o'i gymharu â thua 20 y cant ar gyfer bechgyn o'r un ethnigrwydd. Dangosodd merched o grwpiau ethnig du ac Asiaidd lefelau is o broblemau emosiynol, sef 35 y cant a 37 y cant yn y drefn honno. Mae'r canrannau hyn wedi dangos cynnydd o flwyddyn i flwyddyn ar gyfer merched ers o leiaf 2019 ac maent yn cynnwys y rhai sy'n debygol o gael problemau iechyd meddwl y gellir eu diagnosio a'r rhai sy'n dangos arwyddion cynnar o anawsterau.
Bydd y nodweddion newydd hyn yn sicrhau y bydd defnyddwyr yn gallu cael data lefel poblogaeth hyd yn oed yn gyfoethocach i helpu i ddatblygu eu gwybodaeth a chynllunio eu gwasanaethau.
Gallwch ddod o hyd i ddolen i'r dangosfwrdd yma ynghyd â rhagor o wybodaeth am arolwg SHRN.