Cyhoeddwyd: 29 Ionawr 2025
Mae’r ffigurau diweddaraf gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn datgelu bod dros 1 o bob 4 o farwolaethau cysylltiedig â chyffuriau a gofrestrwyd yn 2023 yn ymwneud â chocên.
Roedd cocên yn gysylltiedig â 65 o farwolaethau yn 2023, gan gyfrif am chwarter yr holl farwolaethau camddefnyddio cyffuriau ac yn cael ei ystyried fel y trydydd sylwedd mwyaf cyffredin, yn dilyn opioidau a benzodiazepines.
Ers 2020, mae Cymru wedi gweld cynnydd sylweddol a chyson mewn marwolaethau yn ymwneud â defnyddio cocên. Mae'r duedd hon yn adlewyrchu'r cynnydd mewn derbyniadau i'r ysbyty sy'n gysylltiedig â chocên a nifer cynyddol o bobl sy'n ceisio triniaeth am gamddefnyddio cocên.
Mae gwasanaethau fel Dan 24/7 yn hanfodol i gynnig cyngor a chefnogaeth ar gyfer ymholiadau am gyffuriau neu alcohol. Mae cynghorwyr ar gael 24 awr y dydd 365 diwrnod y flwyddyn i ateb cwestiynau a chynnig cyngor drwy ffonio 0808 808 2234 neu e-bost - dan@helpline.wales
Yn 2023, cofnodwyd 377 o farwolaethau o wenwyno gan gyffuriau yng Nghymru – cynnydd sylweddol o 318 yn 2022. O'r rhain, dosbarthwyd 253 fel marwolaethau camddefnyddio cyffuriau, o gymharu â 205 y flwyddyn flaenorol. Opioidau yw'r prif achos o hyd, gan gyfrannu at 167 o farwolaethau (66%).
Mewn ardaloedd fel Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, cofnodwyd opioidau mewn 64.3% o farwolaethau cysylltiedig â chyffuriau, gyda heroin a morffin yn brif sylweddau. Cocên oedd yr ail sylwedd mwyaf cyffredin, yn ymwneud â 37.5% o farwolaethau. Ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, cofnodwyd cocên yn yr un nifer o achosion â heroin / morffin.
Mae cynnydd cyson mewn achosion o wenwyno cyffuriau angheuol yn ymwneud ag unigolion sydd â hanes o ddefnyddio cocên neu grac wedi’i gofnodi ers 2016.
Dywedodd yr Athro Rick Lines, Pennaeth Rhaglen Camddefnyddio Sylweddau yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae’r ffigurau hyn yn gyson â gwybodaeth gan wasanaethau lleol sy’n
adlewyrchu cynnydd yn y defnydd o gocên powdr a chrac cocên ledled Cymru. Mae'r tueddiadau esblygol hyn yn dangos bod angen ehangu ein gwasanaethau i ddiwallu anghenion defnyddwyr symbylyddion yn gyffredinol, ac yn enwedig pobl sy'n ysmygu crac cocên sy'n aml yn arbennig o agored i niwed.
"Mae'r data'n dangos eto'r cysylltiadau rhwng amddifadedd cymdeithasol ac economaidd a risg gorddos, gyda marwolaethau sy'n gysylltiedig â chyffuriau wyth gwaith yn fwy tebygol yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig nag yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig. Mae hyn yn dangos nad gwasanaethau cyffuriau yn unig yw'r ateb i leihau marwolaethau, a bod yn rhaid i fynd i’r afael â phenderfynyddion ehangach hefyd fod yn ffocws i’n hymateb.”
I gael rhagor o wybodaeth am Linell Gymorth Cyffuriau ac Alcohol Cymru, ewch i wefan DAN 24/7 yn www.dan247.org.uk