Cyhoeddwyd: 17 Hydref 2024
Mae gweithgarwch corfforol ymhlith disgyblion ysgolion uwchradd yng Nghymru wedi cynyddu, gan wrthdroi dirywiad a ddechreuodd yn 2017. Mae bellach yn debyg i lefelau cyn y pandemig, yn ôl data newydd ar ddisgyblion yng Nghymru o ganlyniadau arolwg iechyd a llesiant y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Mewn Ysgolion (SHRN) a ryddhawyd heddiw.
Mae'r arolwg SHRN sy'n canolbwyntio ar Gymru yn un o'r arolygon mwyaf o ddisgyblion ysgol yn y DU. Bob dwy flynedd mae'n gofyn cwestiynau ar amrywiaeth o bynciau gan gynnwys llesiant meddyliol, defnyddio sylweddau a bywyd ysgol. Cafodd yr arolwg diweddaraf ei gwblhau gan bron 130,000 o ddysgwyr ym mlynyddoedd 7 i 11, mewn 200 o ysgolion uwchradd a gynhelir ledled Cymru.
Mae SHRN yn gydweithrediad rhwng Iechyd Cyhoeddus Cymru, Prifysgol Caerdydd a Llywodraeth Cymru. Mae'r canlyniadau wedi'u cynnwys fel rhan o ddiweddariad newydd i'r Dangosfwrdd Iechyd a Lles Plant Ysgolion Uwchradd , sef offeryn hawdd ei ddefnyddio sy'n galluogi defnyddwyr fel ysgolion, y llywodraeth ac awdurdodau lleol i edrych ar ffigurau o arolygon SHRN dros amser. Mae'r dangosfwrdd yn galluogi defnyddwyr i archwilio'r data yn ôl rhanbarthau gwahanol, oedrannau, rhywedd a chyfoeth teulu, gan roi cyfle i nodi tueddiadau ar gyfer pobl ifanc yng Nghymru.
Roedd bron chwarter y bechgyn (23 y cant) wedi bodloni canllaw cenedlaethol y Prif Swyddogion Meddygol ar gyfer o leiaf 60 munud o weithgarwch corfforol bob dydd, sef cynnydd o gymharu â 21 y cant yn 2019 a 2021. Ymhlith merched, roedd 14 y cant yn bodloni'r canllawiau presennol, ac er bod hyn yn isel, mae wedi gwella o gymharu â 12 y cant yn 2021.
Roedd yr arolwg hefyd yn edrych ar brofiadau pobl ifanc o fwlio. Dywedodd bron 38 y cant o bobl ifanc eu bod wedi cael eu bwlio yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf, sef cynnydd o gymharu â 32 y cant yn 2021. Mae'r canlyniadau yn uwch nag erioed o'r blaen yn yr arolwg gyda mwy na 40 y cant o ferched yn cael eu bwlio o gymharu â thros 30 y cant o fechgyn.
Dywedodd Lorna Bennett, Ymgynghorydd Gwella Iechyd ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru:
“Mae'n galonogol iawn gweld y cynnydd cyffredinol mewn gweithgarwch corfforol ymhlith pobl ifanc oed ysgol uwchradd. Rydym yn gwybod bod gan weithgarwch corfforol fanteision sylweddol ar gyfer iechyd corfforol a meddyliol, felly mae'n wych gweld bod pobl ifanc yn gwrthdroi'r dirywiad a welsom ers 2017. Mae’r data yn dangos bod pobl ifanc yn fwy egnïol yn yr ysgol a'r tu allan iddi, ac mae'n braf gweld hynny.
“Fodd bynnag, er bod croeso i'r cynnydd mewn cyfraddau gweithgarwch corfforol ac ymarfer corff, mae'n amlwg bod nifer y bobl sy'n bodloni'r canllawiau ar gyfer gweithgarwch corfforol yn parhau i fod yn isel, ac mae'n bwysig ein bod yn parhau i weithio i sicrhau bod gweithgarwch corfforol yn dod yn rhan o fywydau mwy o bobl ifanc yng Nghymru.
“Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio gyda phartneriaid cenedlaethol, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, Chwaraeon Cymru, a Cyfoeth Naturiol Cymru, i ddatblygu'r Dull Ysgol Gyfan Bywiog Bob Dydd o ran Gweithgarwch Corfforol. Nod hyn yw gwella cyfleoedd ar gyfer gweithgarwch corfforol yn ystod y diwrnod ysgol ac o'i amgylch, gan ganolbwyntio ar feysydd fel gwersi egnïol, datblygu addysg gorfforol a theithio llesol.
“Yn ogystal, mae'n peri pryder gweld bwlch amddifadedd rhwng yr ardaloedd mwyaf a lleiaf cefnog, a byddem yn gobeithio gweld hyn yn lleihau mewn arolygon yn y dyfodol.”
“Mae'n frawychus bod cyfraddau bwlio yn cynyddu ym mhob grŵp ac mewn bwlio wyneb yn wyneb ac mewn seiberfwlio. Mae'n amlwg bod grŵp sylweddol o bobl ifanc yn gorfod ymdrin â chael eu bwlio, ac rydym yn gwybod y gall hynny effeithio ar iechyd meddwl. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio gydag ysgolion yng Nghymru i ymgorffori'r Dull Ysgol Gyfan o ran Llesiant Emosiynol a Meddyliol, sydd wedi'i gynllunio i helpu ysgolion i gefnogi iechyd meddwl a llesiant plant a phobl ifanc, gan gynnwys atal bwlio a mynd i'r afael ag ef”.
Gan ddefnyddio data SHRN, nododd Ysgol Uwchradd Willows yng Nghaerdydd gyfle i gynyddu gweithgarwch corfforol ymhlith eu myfyrwyr a gwnaethant weithredu rhaglen barhaus o gyfoethogi bob pythefnos ar gyfer yr ysgol gyfan. Drwy weithio gyda phartneriaid lleol, busnesau, a'r myfyrwyr, mae'r ysgol bellach yn cynnig mwy na 50 o weithgareddau gwahanol ar draws amrywiaeth enfawr o feysydd ac mae wedi gweld cynnydd mewn presenoldeb yn yr ysgol, mwy o fyfyrwyr yn gwneud gweithgarwch corfforol a gwell sgiliau gweithgarwch corfforol ymhlith disgyblion.
Meddai Chris Norman, Pennaeth Ysgol Uwchradd Willows:
“Drwy ddatblygu'r rhaglen gyfoethogi rydym wedi rhoi cyfle i'n dysgwyr fod yn llai eisteddog a mabwysiadu ffordd fwy egnïol o fyw. Mae'r amrywiaeth o weithgareddau rydym yn eu cynnig wedi rhoi cyfle iddynt roi cynnig ar amrywiaeth o ffyrdd gwahanol o ymarfer corff ac ymgorffori gweithgarwch corfforol yn eu bywydau bob dydd, ac mae hyn wedi sefydlu angerdd a diddordebau newydd yn ogystal â manteision iechyd corfforol a meddyliol.
“Rydym wedi darparu sesiynau fel dringo creigiau, MMA a hunanamddiffyn, sgiliau syrcas, nofio, hyfforddiant milwrol a beicio, ymhlith llawer o fathau eraill o weithgareddau. Mae'r sesiynau cyfoethogi hefyd yn cael eu mwynhau gan staff, sydd wedi nodi eu bod wedi meithrin gwell perthnasoedd gyda dysgwyr sydd wedi gwneud gwahaniaeth cadarnhaol drwy'r ysgol.”
Meddai Dr Kelly Morgan, dirprwy gyfarwyddwr SHRN ym Mhrifysgol Caerdydd, sy'n goruchwylio casglu data:
“Mae SHRN bellach yn ei 11eg flwyddyn ac mae'n cynnwys pob ysgol uwchradd yng Nghymru, gan ofyn cwestiynau ar amrywiaeth o feysydd sy'n bwysig i bobl ifanc. Ein nod yw darparu data cadarn ac eang fel bod gan y rhai sy'n gwneud penderfyniadau yn y sector iechyd ac addysg yr offer i ddatblygu atebion diriaethol a pharhaol. Rydym yn ddiolchgar i'r holl ysgolion a myfyrwyr sydd wedi cymryd rhan.”
Meddai Zoe Strawbridge, dadansoddwr yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:
“Mae gweithio ar y cyd ag SHRN a Llywodraeth Cymru wedi rhoi cyfle gwych i ddatblygu dangosfwrdd rhyngweithiol, gan roi dealltwriaeth fanwl i ni o wahaniaethau rhanbarthol iechyd a llesiant pobl ifanc yng Nghymru. Edrychwn ymlaen at ddatblygu'r offeryn hwn a rhannu'r canlyniadau ar bynciau pellach dros y flwyddyn i ddod.”
Mae'r dangosfwrdd ar gael yma:
Dangosfwrdd Data Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion (SHRN).