Cyhoeddwyd: 25 Tachwedd 2025
Mae tystiolaeth newydd wedi dangos cynnydd parhaus mewn anawsterau iechyd meddwl ymhlith plant a phobl ifanc yng Nghymru. Mae hyn yn pwysleisio’r angen am ymyrraeth gynnar, gwaith atal a gweithredu ar y cyd ar draws pob sector.
Gwelwyd y cynnydd mwyaf mewn anawsterau emosiynol fel gorbryder ac iselder. Dengys tystiolaeth bod y tueddiadau hyn wedi dechrau ymhell cyn pandemig COVID-19.
Mae'r canfyddiadau wedi'u cynnwys mewn datganiad ar y cyd newydd ar Iechyd Meddwl a Llesiant Plant a Phobl Ifanc, a gyhoeddwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru mewn cydweithrediad ag arbenigwyr o bob cwr o'r DU a phobl ifanc o Ganolfan Wolfson ar gyfer Iechyd Meddwl Pobl Ifanc ym Mhrifysgol Caerdydd.
Dengys y canlyniadau bod cyfraddau cyflyrau iechyd meddwl y gellir eu diagnosio ymhlith plant a phobl ifanc wedi dyblu dros y ddau ddegawd diwethaf, o un ym mhob deg yn 2004 i un ym mhob pump yn 2023.
Mae'n tynnu sylw at yr achosion cymhleth y tu ôl i'r cynnydd hwn, yn cynnwys tlodi teuluol, anghydraddoldeb cymdeithasol, pwysau academaidd, anawsterau iechyd meddwl rhieni, a dylanwad technoleg ddigidol. Mae hefyd yn pwysleisio pwysigrwydd cysylltiad cymunedol, perthnasoedd dibynadwy, a chyfleoedd i fod yn greadigol a gwneud gweithgarwch corfforol fel ffactorau amddiffynnol sy'n cefnogi iechyd meddwl a llesiant.
Mae'r Datganiad ar y Cyd ar Iechyd Meddwl a Llesiant Plant a Phobl Ifanc yn dwyn ynghyd safbwyntiau arbenigwyr blaenllaw a phobl ifanc ac adolygiad o'r data a'r dystiolaeth ddiweddaraf ar batrymau anawsterau iechyd meddwl ymhlith plant a phobl ifanc yng Nghymru, y DU ac yn fyd-eang.
Mae'r canfyddiadau hefyd yn atgyfnerthu'r angen i ganolbwyntio ar lesiant plant o'r blynyddoedd cynharaf, fel bod teuluoedd yn cael y cymorth cywir a bod pobl ifanc yn tyfu i fyny mewn amgylcheddau sy'n amddiffyn eu hiechyd a'u gwydnwch emosiynol.
Dywedodd Emily van de Venter, Ymgynghorydd Llesiant Meddwl Arweiniol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:
“Er bod lefel yr angen yn peri pryder, mae gen i lawer o obaith yn ein gallu i wella canlyniadau i blant a phobl ifanc yng Nghymru. Mae Strategaeth Iechyd Meddwl a Llesiant Meddyliol Cymru yn rhoi ffocws pwysig ar wella mynediad amserol at wasanaethau a chymorth iechyd meddwl yn ogystal â gwella llesiant cymdeithasol ac emosiynol plant a phobl ifanc.
“Mae angen i ni helpu plant a phobl ifanc i deimlo’n obeithiol am y dyfodol, i deimlo eu bod wedi’u cysylltu â’u cymunedau a’u bod yn cael eu derbyn ynddynt ac i allu cael mynediad at gymorth cyn gynted â phosibl pan fyddant yn cael trafferth.”
Dywedodd yr Athro Stephan Collishaw, o Ganolfan Wolfson ar gyfer Iechyd Meddwl Pobl Ifanc ym Mhrifysgol Caerdydd:
“Dengys tystiolaeth gynnydd pryderus mewn problemau iechyd meddwl ymhlith pobl ifanc. Mae tlodi teuluol, anghydraddoldeb cymdeithasol, diffyg cymorth iechyd meddwl amserol, a mwy o straenachoswyr cymdeithasol ac academaidd i gyd yn cyfrannu at hyn.
“Mae hyn hefyd yn cael ei adlewyrchu ym mhrofiadau pobl ifanc a helpodd i greu’r datganiad ar y cyd hwn. Mae gwella llesiant meddyliol pobl ifanc yn hollbwysig o safbwynt moesol a hefyd yn cynrychioli buddsoddiad strategol yn ein dyfodol ar y cyd.
“Pan fyddwn yn meithrin iechyd meddwl, rydym yn datgloi potensial addysgol pobl ifanc, yn cryfhau iechyd hirdymor, ac yn cyfoethogi gwead cymdeithasol ein cymunedau.”
Mae Strategaeth Iechyd Meddwl a Llesiant Meddyliol Cymru 2025–2035 yn nodi gweledigaeth ar gyfer system sy'n blaenoriaethu gwaith atal ac ymyrraeth gynnar, yn mynd i'r afael ag achosion sylfaenol iechyd meddwl gwael, ac yn sicrhau mynediad a chanlyniadau cyfartal i bawb.
Dywedodd Rocío Cifuentes MBE – Comisiynydd Plant Cymru, “Fel Comisiynydd Plant Cymru, rwy’n cymeradwyo’r datganiad hwn sy’n seiliedig ar dystiolaeth, sydd hefyd yn adlewyrchu themâu a glywyd drwy ein gwaith ymgysylltu â phlant, pobl ifanc a gweithwyr proffesiynol.”
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru, partneriaid y GIG a sefydliadau ehangach i gefnogi cyflawni’r strategaeth, yn cynnwys:
Os ydych chi neu rywun rydych chi'n ei adnabod yn cael trafferth gydag anawsterau iechyd meddwl, mae cymorth a chefnogaeth ar gael:
GIG 111 (pwyso 2) – i gael mynediad brys at weithiwr gofal iechyd meddwl proffesiynol. Mae'r gwasanaeth ar gael i bobl o bob oed, 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos, ym mhob rhan o Gymru.
Llinell Gymorth Iechyd Meddwl CALL Cymru – yn cynnig cymorth emosiynol a chyngor cyfrinachol i unigolion a theuluoedd, 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos. Rhadffôn 0800 132 737 neu anfonwch neges destun gyda’r gair “help” i 81066. Mae rhagor o wybodaeth ar gael o: www.callhelpline.org.uk