Cyhoeddwyd: 18 Mawrth 2026
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru’n cynghori myfyrwyr a oedd yn byw mewn llety campws Prifysgol Caint neu a ymwelodd â chlwb nos Club Chemistry rhwng 5 a 7 Mawrth ac sydd wedi dychwelyd adref i Gymru, i gysylltu â'u meddyg teulu am wrthfiotigau ataliol.
Wrth i'r achosion o glefyd meningococol yn ardal Caergaint barhau, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru’n gweithio gyda phartneriaid gan gynnwys Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU (UKHSA) i adnabod pobl sy'n gysylltiedig â'r digwyddiad.
Mae UKHSA yn cynghori unrhyw un a ymwelodd â Club Chemistry rhwng 5 a 7 Mawrth ac i fyfyrwyr Prifysgol Caint gael presgripsiwn gwrthfiotigau ataliol.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru’n ymwybodol y gallai rhai myfyrwyr fod wedi dychwelyd adref i Gymru o'r brifysgol – dylai'r myfyrwyr hyn gysylltu â'u meddyg teulu ar unwaith i gael presgripsiwn gwrthfiotigau os nad oedd modd iddynt dderbyn y rhain cyn dychwelyd i Gymru.
Dywedodd Wendi Shepherd, Dirprwy Gyfarwyddwr Diogelu Iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru:
"Mae ein meddyliau gyda phawb sy'n gysylltiedig â'r achosion o meningitis yn Swydd Gaint, ac rydym yn estyn ein cydymdeimlad â'r rhai sydd wedi cael eu heffeithio.
"Rydym yn gweithio gyda'n partneriaid yn Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU, sy'n rheoli'r digwyddiad.
"Wrth i fyfyrwyr o Brifysgol Caint ddychwelyd adref, mae'n bwysig eu bod yn cael mynediad at wrthfiotigau ataliol os ydynt yn gymwys, er mwyn amddiffyn eu hunain ac i atal unrhyw drosglwyddiad i eraill. Rydym yn gweithio gydag UKHSA i nodi pobl a allai fod yn gymwys i gael eu brechu."
Mae brechu’n ddull allweddol o amddiffyn rhag clefyd meningococol. Os cafodd eich plentyn ei eni ar neu ar ôl 1 Medi 2015, bydd wedi cael cynnig brechiad yn erbyn llid yr ymennydd B fel rhan o'r rhaglen imiwneiddio reolaidd i blant.
Cynigir brechiad yn erbyn llid yr ymennydd math A, C, W ac Y i bobl ifanc tua 13/14 oed (blwyddyn ysgol naw), ond gellir rhoi brechiad dal i fyny hyd at 25 oed. Gall eich meddyg teulu roi mwy o wybodaeth os ydych chi neu'ch plentyn wedi colli'r brechiad ar y pryd.
Nid yw brechu’n amddiffyn rhag pob straen llid yr ymennydd, felly mae'n bwysig bod yn ymwybodol o arwyddion a symptomau llid yr ymennydd, gan y gall waethygu'n gyflym. Gall diagnosis cynnar a thriniaeth gyda gwrthfiotigau wella canlyniadau'n sylweddol.
Mae symptomau cynnar, nad ydynt bob amser yn bresennol i gyd, yn cynnwys: