Cynhelir Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Bwrdd Iechyd Cyhoeddus Cymru ddydd Mercher 17 Medi 2025
Cynhelir y cyfarfod wyneb yn wyneb yn Yr Egin, Caerfyrddin ac ar-lein, rhwng 13:00 a 15:30. Gallwch gofrestru i gael tocyn am ddim yn y dolenni isod.
Iechyd Cyhoeddus Cymru yw sefydliad iechyd cyhoeddus Cymru ac yn Ymddiriedolaeth GIG. Mae'r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yn gyfle i chi ymgysylltu â ni i adolygu ein cyflawniadau yn 2024/25 ar draws ehangder ein rolau a'n cyfrifoldebau niferus, ac i drafod y cyfleoedd a'r heriau sydd o'n blaenau.
Bydd copïau electronig o'r Adroddiad Blynyddol a'r Cyfrifon wedi’u Harchwilio ar gael ar y wefan yn Gymraeg a Saesneg.
Os gallwch ddod i Gaerfyrddin, ymunwch â ni i rwydweithio dros ginio o 12:00. Ar ôl cinio, cynhelir ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol rhwng 13:00 a 15:30 yn Y Stiwdio Fach. Bydd y cyfarfod hefyd yn cael ei ffrydio'n fyw ar-lein.
Croesewir cwestiynau i'r Bwrdd a gellir eu cyflwyno ymlaen llaw.
Anfonwch gwestiynau erbyn 17:00 ddydd Mercher 10 Medi 2025 drwy e-bost i PHW.CorporateGovernance@wales.nhs.uk o dan y pwnc 'Cwestiwn ar gyfer y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol'.
Os oes gennych unrhyw ofynion hygyrchedd neu ofynion eraill, rhowch wybod i ni ar bob cyfrif. Anfonwch e-bost atom yn PHW.CorporateGovernance@wales.nhs.uk gyda’ch gofyniad.
Edrychwn ymlaen at eich gweld chi yno, peidiwch ag anghofio cofrestru ar gyfer eich e-docyn am ddim.