Cyhoeddwyd: 12 Ebrill 2022
Mae adroddiad newydd a gyhoeddwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn tynnu sylw at sut y gallai dylanwadau cyfunol Brexit, Coronafeirws a newid hinsawdd weld cymunedau gwledig yng Nghymru yn profi adeg o newid mawr, gyda chyfleoedd ac effeithiau negyddol i'w llywio.
Mae'r ‘Her driphlyg’ yn effeithio ar gymunedau gwledig mewn llu o ffyrdd, yn ôl y papur, ac mae rhai ohonynt yr un fath ar gyfer cymunedau trefol, ond mae eraill yn fwy penodol i gymunedau gwledig fel oedran, argaeledd, ansawdd a fforddiadwyedd tai, trafnidiaeth a seilwaith teithio llesol. Mae gan gymunedau gwledig boblogaethau hŷn a lefelau uchel o fusnesau amaeth. Mae angen ystyried y ffactorau hyn yn ofalus wrth ddrafftio polisïau a chynlluniau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol er mwyn er mwyn lleihau annhegwch iechyd a llesiant.
Meddai Liz Green, Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus, Polisi ac Iechyd Rhyngwladol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:
“Mae amgylcheddau a chymunedau gwledig wedi dod yn llawer mwy deniadol i fyw a gweithio ynddynt yn ystod cyfnod y pandemig, yn bennaf oherwydd y ffocws cynyddol ar weithio gartref sy'n hyrwyddo dull mwy hyblyg i weithwyr a'u teuluoedd. Gallai hyn gael effeithiau cadarnhaol a negyddol, er enghraifft, gallai alluogi rhai cymunedau gwledig a'u heconomïau i ffynnu a hwyluso cynnydd mewn gwasanaethau a chyfleusterau cynaliadwy, ond gallai hefyd arwain at gynnydd mewn prisiau tai sy'n rhoi'r rheini sy'n byw mewn ardal ar hyn o bryd, neu a fagwyd ynddi, dan anfantais neu brinder tai fforddiadwy i'r poblogaethau lleol.
“Nodwyd hefyd bod seilwaith digidol a hygyrchedd yn bwysig iawn i gymunedau gwledig, ond mae angen canolbwyntio ar alluogi'r defnydd o gyfryngau digidol a chymdeithasol drwy gynyddu llythrennedd digidol, yn enwedig yn y boblogaeth oedrannus.”
Mae'r papur yn nodi pam mae iechyd, llesiant a thegwch gwledig mor bwysig yng Nghymru:
Mae'r papur hwn yn un o gyfres o adroddiadau byr sy'n ceisio darparu trosolwg lefel uchel, strategol o'r rhyngweithio cymhleth rhwng Brexit, Coronafeirws a newid yn yr hinsawdd a phenderfynyddion allweddol iechyd, llesiant a thegwch. Gan ddefnyddio amrywiaeth o dystiolaeth, mae pob papur yn canolbwyntio ar un o benderfynyddion allweddol iechyd neu grŵp poblogaeth penodol ac mae'n ceisio cefnogi rhanddeiliaid strategol a sefydliadol i ddeall yn well yr Her Driphlyg sy'n wynebu Cymru yn awr, ac yn y dyfodol. Mae'n rhoi awgrymiadau i'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau a llunwyr polisi, sefydliadau a chymunedau ynghylch sut y gellid mynd i'r afael â'r effeithiau hyn ac mae'n nodi'r camau posibl y gallant eu cymryd.
Mae'r Papur Sbotolau hwn yn canolbwyntio ar y materion y gall cymunedau gwledig eu hwynebu yn awr ac yn y dyfodol a sut y gall hyn effeithio ar iechyd a llesiant yng nghyd-destun yr Her Driphlyg yng Nghymru.
Mae'r papur yn ceisio mynd i'r afael â bwlch yn y dystiolaeth bresennol sy'n dangos iechyd a llesiant gwledig fel y prif ffocws ac sy'n nodi bod angen rhagor o ymchwil i gefnogi'r gwaith o ddatblygu polisïau iechyd gwledig a datblygu rhaglenni.