Cyhoeddwyd: 8 Gorffennaf 2025
Mae arolwg newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn tynnu sylw at y ffaith bod cymunedau Castell-nedd Port Talbot yn dod ynghyd i gefnogi ei gilydd yng nghyd-destun y newidiadau yn TATA Steel.
Ceisiodd yr arolwg ddeall iechyd a llesiant y boblogaeth leol, mynediad unigolion at gymorth a'u barn ar y newidiadau yn TATA Steel. Fe'i cynhaliwyd yn gynnar yn 2025 ymhlith pobl 16 oed a throsodd a oedd yn byw yn ardal Castell-nedd Port Talbot. Roedd gan yr unigolion a gymerodd ran yn yr arolwg amrywiaeth o gyflogaeth, rhai yn gyflogedig, yn ddi-waith, wedi ymddeol, neu'n fyfyriwr.
Cytunodd bron pawb a holwyd (63 y cant yn cytuno’n gryf; 28 y cant yn cytuno) y gallant gael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt gan deulu a ffrindiau. Teimlai'r mwyafrif (83 y cant) fod eu perthnasoedd cymdeithasol (e.e. teulu a ffrindiau) wedi cael effaith gadarnhaol ar eu hiechyd a'u llesiant. Dywedodd 74 y cant o bobl fod eu bywydau'n teimlo'n werth chweil, roedd 72 y cant yn teimlo'n hapus, a mynegodd 67 y cant foddhad â bywyd yn gyffredinol. Maent i gyd yn ffactorau amddiffynnol allweddol o ran llesiant a gwydnwch cymunedol.
Er gwaetha'r ffaith yr adroddwyd ar amgylcheddau a oedd yn gadarnhaol ar y cyfan, roedd caledi ariannol yn cael ei brofi. Nododd 15 y cant eu bod wedi bod angen rhyw fath o gymorth ariannol yn ystod y chwe mis blaenorol. O'r rhai oedd ei angen, teulu a ffrindiau oedd wedi darparu’r cymorth ariannol yn bennaf (60 y cant). Mae'r canfyddiadau hyn yn awgrymu bod cefnogaeth anffurfiol, yn y gymuned, yn chwarae rhan hanfodol wrth helpu pobl i ymdopi'n ariannol.
Wrth edrych ymlaen, canfu'rarolwg fod 74 y cant o gartrefi yn disgwyl profi rhyw fath o bwysau ariannol yn y chwe mis nesaf, yn benodol gyda biliau ynni (56 y cant), bwyd (44 y cant) a thai (26 y cant). Bydd sicrhau bod pobl yn gwybod o ble i gael gwybodaeth am y gefnogaeth sydd ar gael iddynt yn bwysig. Ar hyn o bryd, dywedodd 32 y cant eu bod yn gwybod bod cymorth ariannol ar gael i bobl Castell-nedd Port Talbot. Yn ogystal, roedd ymwybyddiaeth o gymorth ar gyfer problemau gyda defnyddio alcohol a chyffuriau (42 y cant), ac ar gyfer iechyd meddwl (49 y cant) yn uwch.
Cyfryngau cymdeithasol oedd y sianel fwyaf poblogaidd ar gyfer cael mynediad at wybodaeth am ffynonellau cymorth (57 y cant). Yna gwefannau (26 y cant) ac e-bost (24 y cant). Mae hyn yn tynnu sylw at bwysigrwydd offer digidol wrth gadw cymunedau'n wybodus.
Er 2024, mae newidiadau yn TATA Steel wedi effeithio ar dros 2,000 o'i weithwyr, yn ogystal ag effeithio'n anuniongyrchol ar deuluoedd, cymunedau a busnesau lleol. Dywedodd 8 y cant o unigolion eu bod nhw neu rywun yn eu cartref wedi cael eu heffeithio'n bersonol gan y newidiadau yn TATA Steel. Dywedodd 44 y cant eu bod nhw'n adnabod unigolyn (gan gynnwys nhw eu hunain) sy'n cael ei effeithio gan y newidiadau.
Pan ofynnwyd iddynt pa fath o effaith yr oeddent yn credu y byddai'r newidiadau yn TATA Steel yn ei chael yn eu hardal leol, teimlai mwy na hanner yr ymatebwyr y byddai pump o'r naw mater a ofynnwyd amdanynt yn cael eu heffeithio'n negyddol: cyfleoedd cyflogaeth (89 y cant) iechyd meddwl pobl (83 y cant), ysbryd cymunedol (73 y cant), y farchnad dai (58 y cant), a phlant a phobl ifanc (58 y cant). Ar ben hynny, ansawdd aer oedd yr unig ffactor yr oedd mwy na hanner yr ymatebwyr yn credu y byddai'n cael ei effeithio'n gadarnhaol (76 y cant). Twristiaeth oedd yr unig ffactor yr oedd y rhan fwyaf o bobl yn credu na fyddai'n cael ei effeithio (55 y cant).
Er mwyn i bobl gael iechyd da, mae angen iddyn nhw brofi blociau adeiladu allweddol ar gyfer iechyd mewn ffordd gadarnhaol. Pan ofynnwyd iddynt faint o effaith yr oedd yr wyth ffactor wedi bod yn ei chael ar eu hiechyd a'u llesiant dros y pythefnos blaenorol, tynnodd unigolion sylw at y ffactorau canlynol fel rhai a oedd wedi cael effaith gadarnhaol arnynt: yr ardal y maent yn byw ynddi (68 y cant), diogelwch tai (65 y cant) a'u gallu i gael mynediad at gymorth ar gyfer pryderon iechyd (43 y cant). Y ffactorau a adroddwyd arnynt fwyaf gan ymatebwyr fel rhai a oedd ag effaith negyddol oedd eu gallu i gael mynediad at gymorth ar gyfer pryderon iechyd (31 y cant), rhagolygon swyddi yn y dyfodol (12 y cant), yr ardal yr oeddent yn byw ynddi (12 y cant) a diogelwch tai (9 y cant).
Dywedodd yr Athro Alisha Davies, Pennaeth Ymchwil a Gwerthuso, yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:
"Er bod yr arolwg yn tynnu sylw at y pwysau y mae trigolion yn eu hwynebu, mae hefyd yn dangos y gwydnwch, yr undod a'r ysbryd cymunedol sy'n helpu i lunio Castell-nedd Port Talbot.
“Mae’r cryfder cyfunol hwn yn hanfodol wrth helpu pobl i ymdopi ag ansicrwydd a newid. Mae'r canfyddiadau'n tynnu sylw at bwysigrwydd cymorth lleol ar draws cyflogaeth a chaledi ariannol ond hefyd iechyd meddwl a pherthnasoedd, ar draws y gymuned gyfan, nid yn unig y rhai yr effeithiwyd arnynt yn uniongyrchol gan newidiadau diweddar. Bydd cefnogaeth o'r fath yn galluogi Castell-nedd Port Talbot i gadw'r cryfder a'r ysbryd hwnnw drwy gydol y cyfnod pontio hwn ac i'r dyfodol."
Dywedodd Marie Davies, Cadeirydd Llif Gwaith Cysylltiadau Cymunedol a Llesiant Bwrdd Pontio TATA Steel UK a Chyfarwyddwr Gweithredol Cynllunio a Phartneriaethau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe:
“Mae canlyniadau’r arolwg hwn wedi ein helpu i ddeall yn well sut mae’r newidiadau yn TATA Steel yn effeithio ar bobl Castell-nedd Port Talbot. Er bod gwydnwch cymunedau yn darparu cefnogaeth ar lefel unigol yn lleol, mae'n bwysig ein bod ni fel Bwrdd Iechyd hefyd yn parhau i gynnig gwasanaethau cymorth. Rydym yn gwneud hyn ochr yn ochr â'n partneriaid wrth i ni weithio ar y blociau adeiladu hanfodol ar gyfer iechyd y rhai yr effeithir arnynt a'r genhedlaeth nesaf, trwy addysg, cyflogaeth, tai a chyfleoedd hamdden.”
Dywedodd y Cynghorydd Steve Hunt, Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot:
"Mae newidiadau yn Tata Steel UK wedi effeithio ar bobl ym mhobman, ond mae'r arolwg hwn yn nodi'n dda'r effaith leol benodol a deimlir gan gymunedau Castell-nedd Port Talbot." Mewn ymateb i'r newidiadau hyn, sefydlwyd Bwrdd Pontio TATA Steel / Port Talbot, a ddarparodd £100 miliwn o gyllid i gefnogi gweithwyr, busnesau a chymunedau yr effeithir arnynt.
"Ar ran y Bwrdd Pontio, mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn darparu cymorth wedi'i dargedu i bobl a busnesau yng Nghastell-nedd Port Talbot a thu hwnt." Er enghraifft, y Gronfa Cyflogaeth a Sgiliau £19.8 miliwn a sefydlwyd gan y Bwrdd Pontio i helpu unigolion yr effeithir arnynt i sicrhau cyflogaeth yn y dyfodol. Mae'r gronfa'n rhan o becyn gwaith i gefnogi llesiant unigolion, mynd i'r afael â'r heriau y maent yn eu hwynebu ar hyn o bryd a datblygu cyfleoedd ar gyfer y dyfodol.
"Rwy'n annog y rhai yr effeithir arnynt i gael rhagor o wybodaeth yn yn https://www.npt.gov.uk/cy/hwb-gwybodaeth-pontio-tata-steel/ neu i ymweld â'r lleoliadau galw heibio yng Nghanolfan Siopa Aberafan. Mae gan y cyngor a'i bartneriaid staff wrth law i gefnogi eich camau nesaf."
Datblygwyd yr arolwg hwn mewn partneriaeth â Llif Gwaith Cysylltiadau Cymunedol a Llesiant Bwrdd Pontio TATA Steel y DU. Gan fod y data wedi'i gasglu yn ystod camau cynnar y newidiadau yn TATA Steel, mae'n bwysig cydnabod nad yw'r effeithiau llawn a hirdymor ar y gymuned o bosibl yn hysbys eto. Fodd bynnag, mae'r data'n rhoi cipolwg defnyddiol. Bydd partneriaid yn parhau i fonitro ar y cyd i adolygu sut mae unigolion yn cael eu heffeithio dros amser.
Gall canfyddiadau'r arolwg lywio sut mae sefydliadau lleol a chenedlaethol yn cydweithio, er enghraifft, byrddau iechyd, cynghorau, y trydydd sector a llywodraethau, i gefnogi pobl gyda gwybodaeth a dyfeisiadau wedi'u targedu drwy'r cyfnod hwn o newid ac ansicrwydd yn yr ardal.