Cyhoeddwyd: 18 Chwefror 2026
“Nid peth moethus yw cysylltiad, mae’n ffactor sylfaenol sy’n sbarduno iechyd, gwydnwch a llesiant cymunedol.” Sara Wood, Polisi ac Iechyd Rhyngwladol, Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi adroddiad newydd sy'n archwilio unigrwydd, ynysigrwydd cymdeithasol a chysylltiad cymdeithasol ledled y genedl. Mae’n tynnu ar ganfyddiadau o adroddiad blaenllaw 2025 gan Gomisiwn ar Gysylltiad Cymdeithasol Sefydliad Iechyd y Byd.
Atgyfnerthodd gwaith Sefydliad Iechyd y Byd bod datgysylltiad cymdeithasol yn her iechyd y cyhoedd fyd-eang o bwys sylweddol, gan dynnu sylw at yr effeithiau aruthrol y gall eu cael ar lesiant corfforol, meddyliol a chymdeithasol.
Mae ein hadroddiad yn dod â'r safbwynt byd-eang hwn i gyd-destun Cymru. Mae’n cynnig trosolwg cynhwysfawr o raddfa, ffactorau risg a chanlyniadau unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol yng Nghymru a'r cyfleoedd i weithredu arnynt.
Cymru ar y blaen yn fyd-eang:
Mae Cymru yn weithredwr byd-eang cynnar, gan ei bod yn un o'r gwledydd cyntaf i gyflwyno strategaeth genedlaethol i fynd i'r afael ag unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol.
Mae amrywiaeth eang o ymyriadau eisoes yn bodoli ar draws cymunedau, ond mae’r gwaith gwerthuso yn parhau i fod yn gyfyngedig. Mae cryfhau tystiolaeth ar yr hyn sy'n gweithio ac i bwy yn hanfodol ar gyfer cynnydd yn y dyfodol.
EFFEITHIAU AR IECHYD:
Gall unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol effeithio'n sylweddol ar iechyd a llesiant unigolion, cymunedau a chymdeithasau ehangach, gan gynyddu'r risg o’r canlynol:
Mae'r dystiolaeth yn glir: mae cryfhau cysylltiadau cymdeithasol yn hanfodol ar gyfer Cymru iachach a mwy gwydn. Mae'r adroddiad hwn yn darparu sylfaen i bartneriaid cenedlaethol a lleol gydweithio, wedi'u llywio gan ddata, wedi'u harwain gan dystiolaeth ac wedi'u hysbrydoli gan brofiadau pobl a chymunedau ledled y wlad.
Dywedodd yr awdur arweiniol Sara Wood, Polisi ac Iechyd Rhyngwladol, Iechyd Cyhoeddus Cymru:
“Mae unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol yn cael effaith negyddol sylweddol ar unigolion, cymunedau a chymdeithasau ehangach. Gall cysylltiadau cymdeithasol da, ar y llaw arall, wella iechyd unigolion a chymunedau, a chryfhau gwydnwch cymunedol.”
Dywedodd y cyd-awdur Carys Dale, Polisi ac Iechyd Rhyngwladol, Iechyd Cyhoeddus Cymru:
“Yn aml, rydym yn ystyried unigrwydd yn broblem i bobl hŷn, ond gall effeithio ar unrhyw un, gan gynnwys plant ac oedolion ifanc. Mae cefnogi pobl ar draws cymdeithas i feithrin cysylltiadau cymdeithasol cryfach yn hanfodol, nid yn unig er budd iechyd ar draws bywydau pobl, ond hefyd i feithrin llesiant a gwydnwch cymunedol.”
Unigrwydd, ynysigrwydd cymdeithasol a chysylltiad cymdeithasol yng Nghymru: Safbwynt iechyd cyhoeddus