Cyhoeddwyd: 11 Ebrill 24
Roedd cyfanswm o 869 o waharddiadau mewn ysgolion o ganlyniad i alcohol neu gyffuriau ymhlith plant oedran ysgol yn 2022-23. Mae hynny'n gynnydd o 119 y cant o 2020-21 ac i fyny 16.5 y cant o 2018-19. Dyma'r nifer uchaf o waharddiadau ers 2011-12. Mae'r ffigurau hyn wedi'u hamlygu yn adroddiad Cloddio Data Cymru – adroddiad ystadegol blynyddol sy'n crynhoi data camddefnyddio sylweddau ar gyfer Cymru. Ei nod yw archwilio'n well y dystiolaeth o gamddefnyddio sylweddau dros gwrs bywyd, gan ddechrau gyda'r cyfnod cynenedigol, drwy blentyndod ac ymgorffori ieuenctid ac oedolion hŷn.
Roedd 4,960 o blant yng Nghymru yn derbyn gofal a chymorth oherwydd camddefnyddio sylweddau gan rieni yn 2022/23. Nifer y plant sy'n derbyn gofal a chymorth am gamddefnyddio sylweddau eu hunain oedd 630. Yn y cyfamser, roedd cyflyrau alcohol yn cyfrif am niferoedd is o bobl ifanc o dan 25 oed a dderbyniwyd i'r ysbyty, sef gostyngiad o 34.6 y cant o gymharu â'r flwyddyn flaenorol.
Ar gyfer oedolion 25-49 oed, roedd nifer y derbyniadau i'r ysbyty oherwydd gwenwyno gan gyffuriau anghyfreithlon wedi gostwng 10.6 y cant yn y flwyddyn ddiwethaf, o 4,859 yn 2021-22 i 4,342 yn 2022-23. O gymharu â 2018-19, bu gostyngiad o 27.6 y cant mewn derbyniadau oherwydd cyffuriau anghyfreithlon. Pan fydd derbyniadau i'r ysbyty oherwydd cyffuriau anghyfreithlon yn digwydd, mae opioidau yn parhau i gyfrif am lawer mwy o dderbyniadau nag unrhyw grŵp arall o sylweddau anghyfreithlon. Roedd 38.3% o dderbyniadau i'r ysbyty oherwydd cyffuriau anghyfreithlon yng Nghymru yn 2022-23 yn sgil opioidau.
Canabinoidau oedd yr ail grŵp sylweddau uchaf gyda 1,097 o dderbyniadau i'r ysbyty yn 2022-23 yn ymwneud â 917 o unigolion a dderbyniwyd. Yn y gorffennol, roedd y cynnydd mwyaf mewn derbyniadau i'r ysbyty oherwydd cyffuriau anghyfreithlon wedi cynnwys cocên. Fodd bynnag, gostyngodd y derbyniadau dros y 3 blynedd diwethaf gyda chynnydd bach yn y flwyddyn ddiweddaraf. Mae derbyniadau i'r ysbyty ar gyfer ffetysau a babanod newydd-anedig yr effeithiwyd arnynt gan ddefnydd gan famau, neu ddiddyfnu o ddibyniaeth ar alcohol neu sylweddau eraill wedi gostwng dros y blynyddoedd diwethaf. Fodd bynnag, yn 2022-23 roedd 63 o dderbyniadau ymhlith trigolion Cymru lle cofnodwyd y cyflyrau hyn.
Roedd marwolaethau oherwydd camddefnyddio cyffuriau uchaf yn y categori 40-49 oed, yn cyfrif am 33.7 y cant o'r holl farwolaethau oherwydd camddefnyddio cyffuriau a gofrestrwyd y llynedd. Mae gan ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) y nifer uchaf o dderbyniadau sy'n gysylltiedig â chyffuriau anghyfreithlon (152.1 fesul 100,000 o'r boblogaeth) ac ynghyd â phob bwrdd iechyd (heblaw am ardaloedd byrddau iechyd Caerdydd a'r Fro a Phowys) roedd ganddo gyfraddau uwch na chyfartaledd Cymru yn 2022-23.
Oedolion hŷn dros 50 oed oedd fwyaf tebygol o gael eu derbyn am gyflyrau sy'n benodol i alcohol – gan gyfrif am 65% o'r holl rai a dderbyniwyd i'r ysbyty oherwydd materion yn ymwneud ag alcohol. Yn ogystal, o fewn gwasanaethau camddefnyddio sylweddau arbenigol, alcohol oedd y sylwedd problematig mwyaf cyffredin i bobl dros 50 oed, yn cynrychioli dros 80% o asesiadau. Yn y cyfamser, nodwyd bod opioidau yn cael eu cymryd mewn 13.5 y cant o asesiadau yn y grŵp oedran hŷn.