Neidio i'r prif gynnwy

Cyhoeddi Penodi Cyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth, Cyllid a Pherfformiad Newydd

Cyhoeddwyd: 2 Rhagfyr 2025

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn falch o gyhoeddi penodiad Zoe Pietrzak yn Gyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth, Cyllid a Pherfformiad newydd.  

Mae Zoe yn ymuno â ni o GIG Lloegr lle mae hi ar hyn o bryd yn Gyfarwyddwr Rhanbarthol Cyllid ar gyfer Dwyrain Lloegr.  
Mae Zoe wedi gweithio yn y GIG ers 23 mlynedd. Dechreuodd ei gyrfa gyllid gyda’r GIG yn Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol Great Yarmouth fel Cyfrifydd Rheoli. Aeth ymlaen i fod yn Brif Swyddog Ariannol yng Nghrŵp Comisiynu Clinigol Great Yarmouth a Waveney. Gadawodd Zoe y Grŵp Comisiynu Clinigol i ymgymryd â swydd yn nhîm cyllid cenedlaethol GIG Lloegr yn arwain cynllunio ariannol cyn iddi ymuno â'r tîm cyllid rhanbarthol yn haf 2019.
Cymerodd Zoe yr awenau fel Cyfarwyddwr Cyllid Rhanbarthol, Dwyrain Lloegr, ym mis Gorffennaf 2022 ar ôl bod yn Ddirprwy Gyfarwyddwr Cyllid Rhanbarthol am ddwy flynedd.

Mae hi'n eiriolwr brwd dros amrywiaeth ar lefel uwch arweinyddiaeth ariannol yn y GIG. Cydsefydlodd rwydwaith cyllid Menywod mewn Arweinyddiaeth y DU i godi ymwybyddiaeth o fanteision amrywiaeth wrth wneud penderfyniadau.   
Bydd Zoe yn gweithio ar draws ein portffolios cyllid, strategaeth a pherfformiad ac yn cydweithio â phartneriaid ar draws y GIG a phartneriaid eraill, i gefnogi'r newid i ddyrannu adnoddau yn seiliedig ar atal, er mwyn trawsnewid iechyd y boblogaeth yng Nghymru.

Dywedodd Zoe:

“Mae ymuno ag Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gyfle gwych a chyffrous i mi weithio gyda phobl y mae gwaith atal yn bwysig iddyn nhw ac i weithio ar y cyd i gael effaith gadarnhaol a gwella iechyd pobl Cymru.”

Dywedodd Tracey Cooper, Prif Weithredwr Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Rydym wrth ein bodd bod Zoe yn ymuno â ni. Mae hi'n dod â chyfoeth o brofiad a bydd yn ased i'r sefydliad ac i Gymru. Mae ei rôl yn un hollbwysig ac yn sail i’n cenhadaeth i greu dyfodol iachach i Gymru.”

Dywedodd Pippa Britton, Cadeirydd Iechyd Cyhoeddus Cymru :

“Mae gennym agenda uchelgeisiol fel sefydliad iechyd y cyhoedd cenedlaethol Cymru ac mae hwn yn benodiad allweddol i ni. Bydd cyflawni ein pwrpas yn gofyn am amrywiaeth o sgiliau a disgyblaethau ac rwyf mor falch bod Zoe yn ymuno â ni gyda'i chefndir arbenigol mewn cyllid a chynllunio a fydd yn ein i helpu i weithio tuag at ein nodau strategol.”