Neidio i'r prif gynnwy

Cyhoeddi Cadeirydd Newydd Iechyd Cyhoeddus Cymru

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn estyn croeso cynnes i Pippa Britton OBE fel Cadeirydd newydd ein Bwrdd. Cyhoeddwyd ei phenodiad heddiw gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Mark Drakeford. 

Gan ddechrau o 1 Rhagfyr 2024, am dymor o bedair blynedd, bydd Pippa yn ymuno ag Iechyd Cyhoeddus Cymru, ar ôl bod yn Is-gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. 

Mae Pippa wedi cystadlu yn y gemau Paralympaidd ddwywaith ar dimau saethyddiaeth Cymru a Phrydain am 15 mlynedd a llwyddodd i gyrraedd y podiwm mewn chwe Phencampwriaeth y Byd a 24 o ddigwyddiadau rhyngwladol. Wrth gystadlu, roedd hefyd yn hyfforddwr a mentor i athletwyr y garfan ddatblygu a hi oedd yr athletwr para-saethyddiaeth cyntaf i fod yn aelod o bwyllgor Saethyddiaeth y Byd, gan gynrychioli saethwyr o bob cwr o'r byd.

Mae Pippa wedi parhau i gyfrannu at chwaraeon yng Nghymru, gydag angerdd gwirioneddol am y cyfraniad y gall ei wneud, i chwaraeon yn ogystal â'r gymuned ehangach yng Nghymru. Yn 2023, dyfarnwyd OBE i Pippa am ei gwasanaethau i chwaraeon.  

Mae Pippa wedi gwasanaethu fel Cadeirydd Chwaraeon Anabledd Cymru, Is-gadeirydd Chwaraeon Cymru, Is-gadeirydd Atal Camddefnyddio Cyffuriau y DU ac fel un o Aelodau Bwrdd Comisiwn Elusennau Cymru. 

Meddai Nick Elliott, Cadeirydd dros dro yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Gyda chyfoeth o brofiad Pippa a'r angerdd sydd ganddi am wasanaeth cyhoeddus a chwaraeon, rwy'n sicr y bydd yn setlo'n gyflym yn ei rôl newydd, gan ysgogi Iechyd Cyhoeddus Cymru tuag at gyflawni ei nod o Gymru lle mae pobl yn byw bywydau hirach, iachach.” 

Meddai Pippa: “Mae'n bleser gennyf ymuno ag Iechyd Cyhoeddus Cymru ac rwy'n gyffrous iawn o gael y cyfle i fod yn rhan o dîm Iechyd Cyhoeddus Cymru, gan weithio ar draws sectorau gyda phartneriaid i wella iechyd a llesiant pobl Cymru."