Mae Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnal cyfarfodydd rheolaidd y mae croeso i'r cyhoedd, gan gynnwys aelodau o'r staff, eu mynychu.
Cynhelir Cyfarfod Cyhoeddus o Fwrdd Iechyd Cyhoeddus Cymru ddydd Iau 25 Gorffennaf am 9.00am ym Mhrifysgol De Cymru, Campws Casnewydd.
Bydd Jan Williams, OBE yn cadeirio'r cyfarfod, a fydd yn cael ei ffrydio'n fyw drwy gyfryngau cymdeithasol. Mae'r agenda yn dangos yr hyn a fydd yn cael ei drafod a phryd. Mae'r papurau ar gael ymlaen llaw a gallwch eu gweld yma.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â mynychu'r cyfarfod, neu os ydych yn bwriadu mynychu a bod gennych unrhyw ofynion arbennig y dylid eu hystyried, cysylltwch â Helen Bushell, Ysgrifennydd y Bwrdd a Phennaeth Uned Fusnes y Bwrdd, Iechyd Cyhoeddus Cymru ar 02920 104283.
Bydd cyfarfod Bwrdd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cael ei ddilyn gan y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol. Bydd Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cyflwyno diweddariad ar gynnydd 2018/19 a bydd yn rhannu'r adroddiad blynyddol, cyfrifon ariannol a'n datganiad ansawdd blynyddol.
Mae'n gyfle hefyd i gwrdd ag aelodau o'n Bwrdd a chlywed am ein gwaith. Bydd sesiwn holi ac ateb hefyd.
Mae rhagor o fanylion am y cyfarfod cyffredinol blynyddol ar gael ar y dudalen we ganlynol: Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol
Mae rhagor o fanylion am Fwrdd Iechyd Cyhoeddus Cymru ar gael ar y wefan ganlynol: https://icc.gig.cymru/amdanom-ni/y-bwrdd-ar-tim-gweithredol/papuraur-bwrdd/