Cyhoeddwyd: 20 Mai 2025
Mae adroddiad blynyddol diweddaraf Rhaglen Mesur Plant Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos bod nifer y plant 4-5 oed oedd â phwysau iach bellach yn uwch nag yr oedd cyn y pandemig. Mae 73.5 y cant o blant yn y categori hwnnw.
Dangosodd canlyniadau eleni, sy’n deillio o flwyddyn academaidd 2023-24, wahaniaeth ystadegol arwyddocaol hefyd rhwng ardaloedd gwledig a threfol. Mae 26.8 y cant o’r plant sy’n byw mewn ardaloedd gwledig dros eu pwysau neu’n ordew, o'u cymharu â 25.0 y cant o’r plant sy’n byw mewn ardaloedd trefol.
Unwaith eto, mae cydberthynas rhwng lefelau gordewdra ac amddifadedd ledled Cymru. Y plant sy'n byw yn yr ardaloedd hynny a ddynodwyd fel 'pumed ran fwyaf difreintiedig' y wlad sydd fwyaf tebygol o fod dros eu pwysau neu’n ordew, ac mae’r plant sy’n byw yn ardaloedd y bumed ran leiaf difreintiedig yw’r lleiaf tebygol o fod felly. Ar lefel Awdurdod Lleol, roedd cyfran y plant a oedd yn ordew yn amrywio o 9.0 y cant yn Sir Fynwy i 14.1 y cant yn Sir Gaerfyrddin.
Mae'r Rhaglen Mesur Plant yn rhaglen wyliadwriaeth genedlaethol sy'n archwilio data taldra a phwysau a gesglir yn flynyddol gan blant mewn dosbarthiadau Derbyn ledled Cymru. Diben yr adroddiad yw darparu data am sut mae plant yn tyfu fel y gall GIG Cymru gynllunio a darparu gwasanaethau iechyd yn well ar lefelau cenedlaethol, byrddau iechyd ac awdurdodau lleol. Mae'r rhaglen yn cael ei chydlynu gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a'i chyflwyno gan dimau nyrsio ysgol o bob un o'r saith bwrdd iechyd.
I Gymru gyfan, roedd lefelau cyfranogiad wedi dychwelyd i'r un lefel â chyn y pandemig. Cymerodd dros 93 y cant o blant ran yn y rhaglen.
Roedd cyfran y plant gordew yng Nghymru (11.8 y cant) yn uwch na'r hyn a adroddwyd ar gyfer Lloegr neu'r Alban.
Dywedodd Dr Llion Davies, Ymgynghorydd mewn Meddygaeth Iechyd y Cyhoedd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae data eleni o’r Rhaglen Mesur Plant yn debyg mewn sawl ffordd i ddata’r llynedd, ac fe allai ddangos bod pethau wedi dychwelyd i’r lefelau a gafwyd cyn y pandemig.
“Mae’r gwahaniaeth yng nghyfrannau’r plant sydd dros eu pwysau ac yn ordew rhwng ardaloedd trefol a gwledig yn ddiddorol, ac mae ymchwil bellach yn cael ei chynllunio i ystyried hyn yn fanylach.”
Rhoi’r dechrau gorau mewn bywyd i blant yw’r hyn y mae pob rhiant a gofalwr eisiau ei wneud, ac mae tystiolaeth yn dangos mai dyma’r ffordd orau o helpu plant i gynnal pwysau iach hyd at eu llawn dwf.
Mae gwefan Pob Plentyn Cymru Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ffynhonnell wych o wybodaeth ac adnoddau. Mae’n cynnwys adnoddau gwybodaeth i rieni i helpu teuluoedd i gyflwyno arferion iach o'r oedran cynharaf. Mae’r adran Bwyd Teulu yn darparu canllawiau defnyddiol iawn ynghylch delio ag amseroedd prydau bwyd, yn ogystal â ryseitiau blasus sy'n amrywio o ddiddyfnu i brydau bwyd i'r teulu cyfan, awgrymiadau ar gyfer cynlluniau prydau bwyd, syniadau ar gyfer cyfnewid bwyd i fwyd iachach a rhestrau siopa hyd yn oed.
Dywedodd Rachel Bath, Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd ym maes Gwella Iechyd ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae gwefan Pob Plentyn yn rhoi offer ymarferol iawn i rieni er mwyn eu helpu i roi’r dechrau gorau posibl i’w plant.
“Rydym yn gwybod bod rhieni eisiau gwneud y peth iawn i’w plant, ond rydym hefyd yn ymwybodol eu bod yn wynebu llawer o bwysau – boed hynny yn sgil costau byw cynyddol, bod ag amser cyfyngedig i’w dreulio gyda’u plant, a hefyd ceisio meddwl am syniadau ar gyfer gweithgareddau rhad ac am ddim i’w gwneud gyda’i gilydd.
“Mae bod â phwysau iach yn galluogi plant i dyfu, chwarae, cysgu a chanolbwyntio’n well. Mae atal yn bendant yn well na gwella – bydd cyflwyno a mabwysiadu ymddygiadau iach, fel teulu, o ddechrau bywyd plentyn, yn rhoi manteision parhaol iddo.
“Mae costau byw cynyddol yn ei gwneud hi hyd yn oed yn anoddach i rieni a gofalwyr wneud dewisiadau iach. Rydym yn annog pobl i wirio a ydynt yn gymwys ar gyfer cynllun Cychwyn Iach sy'n helpu rhai teuluoedd i fforddio prynu ffrwythau, llysiau a bwydydd iach eraill nes bod eu plentyn yn bedair oed.”
Gellir lawrlwytho'r adroddiad yma: