Cyhoeddwyd: 25 Tachwedd 2021
Ar Ddiwrnod Hawliau Gofalwyr (25 Tachwedd 2021), mae ymchwil newydd gan Is-adran Ymchwil a Gwerthuso Iechyd Cyhoeddus Cymru a Phrifysgol Abertawe, wedi canfod bod gan ofalwyr di-dâl iechyd llawer gwaeth na'r boblogaeth gyffredinol yng Nghymru; ond mae bod mewn cyflogaeth â thâl, sicr a/neu addysg wrth ofalu am eraill yn gysylltiedig â llesiant uwch ymhlith gofalwyr di-dâl.
Ar anterth pandemig COVID-19, amcangyfrifwyd bod dros 700,000 o ofalwyr di-dâl yng Nghymru, sef cynnydd o tua 400,000 yn 2019. Fodd bynnag, oherwydd diffyg casglu data systematig ar ofalwyr di-dâl, mae'n anodd gwybod nifer gwirioneddol y gofalwyr di-dâl yng Nghymru, a chael dealltwriaeth lawn o'u hanghenion iechyd.
Aeth yr ymchwil a wnaed gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Phrifysgol Abertawe i'r afael â'r her hon drwy ddwyn ynghyd ddata gofal sylfaenol dienw ac Arolwg Cenedlaethol Cymru. Llwyddodd y tîm i nodi dros 62,000 o ofalwyr di-dâl yng Nghymru dros y cyfnod rhwng 2011 i 2020, a disgrifio iechyd y grŵp hwn
Ymhlith y canfyddiadau allweddol mae;
Roedd cyfran yr unigolion a gafodd ddiagnosis o gyflwr hirdymor yn uwch ymhlith gofalwyr di-dâl o gymharu â'r rhai nad ydynt yn ofalwyr, ar draws 36 o gyflyrau gwahanol a astudiwyd.
Gorbryder a/neu iselder oedd y cyflwr hirdymor a gafodd ddiagnosis amlaf mewn gofalwyr di-dâl a'r rhai nad oeddent yn ofalwyr, ond roedd 1.8 gwaith yn uwch mewn gofalwyr di-dâl.
Roedd y cyflyrau eraill â chyfradd uwch ymhlith gofalwyr di-dâl na'r rhai nad ydynt yn ofalwyr yn cynnwys clefydau cyhyrysgerbydol, canser, rhwymedd a syndrom coluddyn llidus.
Ymhlith gofalwyr di-dâl, roedd cyfraddau uwch o orbryder a/neu iselder, epilepsi, syndrom coluddyn llidus a chlefydau cyhyrysgerbydol ymhlith gofalwyr ifanc.
Roedd dros dri o bob 10 o ofalwyr di-dâl yng Nghymru yn byw gyda chyflyrau hirdymor lluosog. Roedd gofalwyr di-dâl hefyd yn fwy tebygol o fod yn rheoli cyflyrau lluosog yn iau.
Roedd y cysylltiad rhwng gofalu ac iechyd gwael yn amlwg beth bynnag fo'u hamddifadedd. Yn y cymunedau â'r amddifadedd lleiaf, roedd gofalwyr 1.8 gwaith yn fwy tebygol o fod yn byw gyda chyflyrau lluosog hirdymor o gymharu â'r rhai nad oeddent yn ofalwyr. Yn y cymunedau â'r amddifadedd mwyaf, roedd hyn yn debyg, ar 1.6 gwaith yn uwch ymhlith gofalwyr.
Gall gofalwyr di-dâl gynnwys y rhai sy'n gofalu am eraill yn amser llawn neu'n rhan-amser. Yn yr ail astudiaeth, gwnaethom geisio deall ymhellach effaith oriau gofalu ar lesiant meddwl wedi'i hunanadrodd ac effaith cyflogaeth a/neu addysg wrth ofalu am eraill. Dyma'r canfyddiadau allweddol:
Yn gyffredinol, roedd llesiant meddyliol wedi gostwng wrth i nifer yr oriau gofalu (dwyster gofalu) gynyddu.
Roedd gofalwyr benywaidd yn debygol o ddarparu gofal dwyster uwch na dynion, ac roeddent yn fwy tebygol o brofi effeithiau negyddol gofalu ar lesiant meddwl wedi'i hunanadrodd.
Yn y grŵp oedran hynaf (65 oed a throsodd), roedd sy'n rhoi gofal dwyster uchel wedi nodi llesiant meddyliol gwaeth o gymharu â'r rhai sy'n rhoi gofal dwyster isel.
Ond ymhlith y gofalwyr di-dâl ieuengaf (16 - 44 oed) roedd yr effaith ar lesiant meddyliol yn waeth i'r rhai sy'n darparu gofal dwyster cymedrol, o gymharu â gofal dwyster isel.
Nid oedd gofalwyr di-dâl nad ydynt mewn cyflogaeth a'r rhai â lefel isel o addysg wedi nodi llesiant meddwl sylweddol is o gymharu â gofalwyr di-dâl mewn cyflogaeth neu sydd â lefel uchel o addysg.
Meddai Jiao Song, Prif Ystadegydd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae ein canfyddiadau'n rhoi dealltwriaeth fanwl o iechyd ymhlith gofalwyr di-dâl yng Nghymru, yn enwedig sut y gall llesiant meddyliol gwael effeithio'n anghymesur ar grwpiau gwahanol, a sut y mae hynny'n wahanol yn ôl lefel y dwyster gofalu, cyrhaeddiad addysgol a statws cyflogaeth. Gellir defnyddio'r canfyddiadau hyn i helpu i lywio camau gweithredu ar draws sectorau i wella llesiant gofalwyr di-dâl. Mae hyn yn cynnwys pwysigrwydd deall a chefnogi anghenion iechyd gofalwyr, a mynd i'r afael â rhwystrau i fynediad a chadw mewn addysg a chyflogaeth dda, deg.”
Meddai Alisha Davies, Pennaeth Ymchwil a Datblygu yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:
“Mae'r astudiaethau hyn yn rhoi gwybodaeth werthfawr am iechyd gofalwyr di-dâl yng Nghymru, ond un her allweddol o hyd yw'r diffyg data a gesglir yn rheolaidd ar statws gofalu dros amser. Mae hyn yn cyfyngu ar ein gallu i ddeall yn llawn effaith gadarnhaol a negyddol gofalu, ar iechyd a llesiant gofalwyr di-dâl, ochr yn ochr ag effeithiau ffactorau economaidd-gymdeithasol gan gynnwys addysg a chyflogaeth, ar draws cwrs bywyd. Mae angen dulliau o ran y ffordd orau o gofnodi data rheolaidd ar ofalwyr di-dâl er mwyn helpu i sicrhau bod mewnwelediadau'n cael eu paratoi ar yr adeg gywir i gefnogi gweithredu lleol a chenedlaethol”.
Meddai'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan:“Gall effaith gorfforol ac emosiynol gofalu fod yn llethol ac mae'n hanfodol ein bod yn cefnogi gofalwyr di-dâl i ofalu am eu hiechyd a'u llesiant eu hunain. Bydd yr astudiaethau hyn gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ein helpu i wella canlyniadau i ofalwyr di-dâl a chynyddu llesiant, cyrhaeddiad addysgol a chyfleoedd cyflogaeth.”
Meddai Claire Morgan, Cyfarwyddwr Gofalwyr Cymru:
“Mae'r defnydd o e-garfan o ofalwyr yn yr ymchwil hon, yr oeddem yn falch o'i chefnogi, wedi ychwanegu dimensiwn newydd pwysig i'n dealltwriaeth o effeithiau negyddol ar iechyd a llesiant y grŵp hwn. Mae cysylltiad clir rhwng bod yn ofalwr di-dâl ac iechyd gwael, waeth beth fo'u lefelau amddifadedd, ac mae cael mynediad at gyflogaeth neu addysg ochr yn ochr â gofalu yn gwella llesiant. Ni allai'r system gofal cymdeithasol yng Nghymru weithredu heb ofalwyr di-dâl, felly rhaid i'w iechyd a'u llesiant fod yn flaenoriaeth genedlaethol. Mae angen i ni weld buddsoddiad i adfer gwasanaethau cymunedol y mae gofalwyr yn dibynnu arnynt, mabwysiadu arferion gweithio hyblyg yn ehangach sy'n cefnogi gofalwyr i aros mewn cyflogaeth a phrosesau gwell o gasglu data yn systematig fel y gellir deall anghenion gofalwyr a mynd i'r afael â'r anghenion hyn yn gynt.”