Cyhoeddwyd: 14 Tachwedd 2022
Gall cyflogwyr sy'n talu cyflog byw gwirioneddol neu uwch i staff ddiogelu a chefnogi iechyd a llesiant da i'r unigolyn a chymdeithas yn gyffredinol, yn ôl arbenigwyr yn Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Mae'r tîm penderfynyddion ehangach iechyd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi dweud bod cefnogi cyflog byw i gyflogeion yn bwysicach nawr nag erioed. Yn enwedig i weithwyr sy'n wynebu argyfwng costau byw ac i gyflogwyr yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol sy'n ei chael yn anodd recriwtio a chadw staff.
Mae cyflog digonol yn rhan sylfaenol o ‘waith teg’ - lle mae gweithwyr yn cael eu gwobrwyo'n deg, eu clywed a'u cynrychioli, yn ddiogel ac yn gallu gwneud cynnydd mewn amgylchedd iach, cynhwysol lle mae hawliau'n cael eu parchu.
Mae gwaith teg yn floc adeiladu hanfodol i iechyd a llesiant da, gan alluogi pobl i fwyta'n iachach, fforddio tai gwell a gwneud dewisiadau iachach mewn bywyd.
Ac mae gweithlu iach sy'n ymgysylltu yn cyfrannu at gynhyrchiant busnes a ffyniant cymdeithasol.
Meddai Dr Ciarán Humphreys, Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:
“Gyda diffyg cyflog digonol, prin fu effaith lefelau cyflogaeth cynyddol dros y blynyddoedd diwethaf ar dlodi yng Nghymru. Mae hyn yn golygu o'r 30 y cant o blant sy'n byw mewn tlodi incwm cymharol yng Nghymru yn 2020, roedd bron tri chwarter bellach mewn aelwydydd sy'n gweithio - i fyny o hanner ddegawd ynghynt.”
“Yn ogystal ag effeithiau iechyd meddwl, mae trallod ariannol hefyd wedi bod yn gysylltiedig â lefelau uwch o absenoliaeth a phresenoliaeth, yn enwedig ymhlith menywod, y rhai sydd ag addysg is neu lythrennedd ariannol is a'r rhai sydd wedi gwahanu, wedi ysgaru neu'n sengl.
“Nododd cyflogwyr y gall darparu cyflog digonol helpu i ddatrys y broblem hon. Mae cymryd rhan mewn gwaith teg yn rhoi ymdeimlad o bwrpas ac mae'n golygu bod gan bobl arian ac adnoddau ar gyfer bywyd iach iddyn nhw a'u teuluoedd. Mae hyn yn lleihau straen seicolegol, yn gam allan o dlodi ac yn helpu plant i gael y dechrau gorau mewn bywyd. Gall gwaith teg gyfrannu at economi llesiant, gan wella canlyniadau i'r boblogaeth gyfan, gan gynnwys y rhai mwyaf difreintiedig.”
Gall asiantaethau lleol a rhanbarthol gefnogi cyfranogiad cynhwysol mewn gwaith teg drwy ddilyn yr argymhellion a amlinellwyd yn Canllaw darparu gwaith teg ar gyfer iechyd, llesiant a thegwch, - canllaw hawdd ei ddeall a lansiwyd yn gynharach eleni gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Gyda chyrff cyhoeddus a sefydliadau'n datblygu'r argymhellion hyn ac yn gweithredu meddylfryd ‘Gwaith teg’ fel rhan annatod o'u prosesau cynllunio, gallan nhw a'r cymunedau y maent yn gweithredu ynddynt wneud gwahaniaeth gwirioneddol lle mae'n cyfrif; gan wella tegwch, ychwanegu blynyddoedd at fywyd a gwireddu cyd-fanteision cynyddu cynhyrchiant, cadw staff ac mewn llawer o achosion, y llinell waelod.
Meddai Charles Janczewski, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro
“Fel un o'r cyflogwyr mwyaf ar draws de-ddwyrain Cymru, roeddem yn teimlo'n gryf ei bod yn bwysig gwneud y peth iawn a chynnig y Cyflog Byw i'n staff. Mae llawer o'n staff yn byw yn rhai o'r cymunedau mwyaf difreintiedig yng Nghymru ac rydym yn gwybod bod y cysylltiad rhwng ffyniant economaidd yn un o benderfynyddion allweddol iechyd meddwl da. Rydym yn ymwybodol o'r pwysau ychwanegol y mae'r argyfwng costau byw yn ei gael ar ein staff hynod weithgar, a nhw yn aml iawn yw'r enillwyr isaf yn y GIG.
"Mae cynnig y Cyflog Byw yn un o nifer o ffyrdd yr ydym ni yn y Bwrdd Iechyd yn gwrando ar ein staff ac yn helpu i'w cefnogi drwy amseroedd hynod anodd sy'n aml yn llawn straen. Rwy'n credu mai dyma'r peth iawn i'w wneud ac rwy'n falch ein bod wedi parhau i gynnig y Cyflog Byw i'n holl staff ers 1 Ebrill 2020 a byddwn yn parhau i wneud popeth y gallwn i gynorthwyo ein staff drwy gyfnod economaidd heriol iawn.”
Gellir gweld adnoddau ychwanegol i gyflogwyr yn:
icc.gig.cymru/gwasanaethau-a-thimau/cymru-iach-ar-waith/yr-argyfwng-costau-byw/