Neidio i'r prif gynnwy

Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Iechyd Cyhoeddus Cymru 2023

Cyhoeddig: 13 Medi 2023

Hysbysir drwy hyn y cynhelir Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Bwrdd Iechyd Cyhoeddus Cymru ddydd Iau 28 Medi am 10:00. 

Iechyd Cyhoeddus Cymru yw sefydliad iechyd cyhoeddus cenedlaethol Cymru ac un o Ymddiriedolaethau'r GIG.  Mae'r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yn gyfle i ymgysylltu â ni wrth adolygu cyflawniadau 2022/23 ar draws ehangder ein rolau a'n cyfrifoldebau niferus, ac wrth drafod y cyfleoedd a'r heriau sydd i ddod. 

Bydd copïau electronig o'r Adroddiad Blynyddol a'r Cyfrifon Archwiliedig ar gael ar y wefan yn Gymraeg ac yn Saesneg.   

Mae'n bleser gennym roi gwybod ein bod yn ffrydio'n Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yn fyw unwaith eto eleni ar 28 Medi 2023 gan roi'r cyfle i unrhyw sydd â mynediad at y rhyngrwyd i arsylwi mewn amser real.  Mae'r ddolen i'r cyfarfod wedi'i chynnwys isod a bydd hefyd yn cael ei rhannu ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol. 

Fel cyfarfodwyr, byddwch yn gallu arsylwi ar y cyfarfod ar Microsoft Teams—bwrdd gwaith (Windows neu Mac), ar y we, neu symudol.  Os nad oes gennych Microsoft Teams, gallwch hefyd ddefnyddio porwr (Chrome, Firefox, neu Edge). Sylwer nad yw Safari'n cael ei gefnogi ar hyn o bryd. 

Papurau Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Bwrdd Iechyd Cyhoeddus Cymru:  

Mae copïau electronig o bapurau'r bwrdd ar gael ac yn hygyrch i'w lawrlwytho o wefan Bwrdd Iechyd Cyhoeddus Cymru 10 diwrnod calendr cyn y cyfarfod drwy'r ddolen ganlynol: Papurau Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Bwrdd Iechyd Cyhoeddus Cymru. 

Cwestiynau  

Croesewir cwestiynau ar gyfer y Bwrdd a gellir eu cyflwyno ymlaen llaw drwy eu hanfon drwy e-bost at y tîm 3 diwrnod cyn y cyfarfod.  A fyddech cystal â chyflwyno'r holl gwestiynau erbyn 5pm ddydd Llun 25 Medi 2023 i PHW_Board.Business@wales.nhs.uk.

Byddwn yn ceisio ateb pob cwestiwn a dderbynnir ymlaen llawn yn sesiwn Holi ac Ateb yr agenda.  Sylwer y bydd unrhyw gwestiynau nad ymatebir iddynt yn yr amser sydd ar gael ar yr agenda yn cael eu darparu'n ysgrifenedig yn dilyn y cyfarfod ac ar gael ar y wefan.  

Byddwch hefyd yn gallu postio cwestiwn yn ystod y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol drwy'r cyfleuster Holi ac Ateb yn Microsoft Teams os yw'ch dyfais yn caniatáu hynny.  Bydd unrhyw gwestiynau a gyflwynir yn ystod y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yn cael eu hateb yn ysgrifenedig yn dilyn y cyfarfod.  Bydd y rhain ar gael drwy'r wefan yn y ddolen ganlynol: