Neidio i'r prif gynnwy

Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Bwrdd 2023/24

Cynhelir Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Bwrdd Iechyd Cyhoeddus Cymru ddydd Iau 26 Medi am 1.30pm.

Iechyd Cyhoeddus Cymru yw sefydliad iechyd y cyhoedd yng Nghymru ac mae’n Ymddiriedolaeth y GIG. Mae'r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yn gyfle i ymgysylltu â ni wrth adolygu cyflawniadau 2023/24 ar draws ein rolau a'n cyfrifoldebau niferus, ac wrth drafod y cyfleoedd a'r heriau sydd o'n blaenau. Eleni, byddwn yn rhoi sylw i'n Rhwydweithiau Staff a'n gwaith gyda phartneriaid ar faterion newid hinsawdd.

Bydd copïau electronig o'r Adroddiad Blynyddol a'r Cyfrifon Archwiliedig ar gael ar y wefan yn Gymraeg ac yn Saesneg.   

Cynhelir y cyfarfod wyneb yn wyneb yn ein swyddfa Iechyd Cyhoeddus Cymru yng Nghaerdydd ac ar-lein. Cofrestrwch eich diddordeb drwy archebu tocyn am ddim gan ddefnyddio’r dolenni isod.

Cofrestrwch yma i ymuno â ni wyneb yn wyneb

Cofrestrwch yma i ymuno â nhin fyw ar-lein

I'r rhai sy'n ymuno wyneb yn wyneb, mae ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yn gyfle i gwrdd ag aelodau ein Bwrdd a'n Rhwydweithiau Staff. Eleni rydym yn cynnal ein 'Ffair Rhwydwaith' gyntaf lle gallwch ddysgu am waith ein Rhwydweithiau trwy weithgareddau rhyngweithiol.

Bydd y Ffair Rhwydwaith yn cael ei chynnal ar y 3ydd llawr rhwng 12 a 1.30pm.

Yn dilyn y ffair, bydd ein cyfarfod cyffredinol blynyddol yn cael ei gynnal rhwng 1:30pm a 3:30pm yn yr ystafell cynadledda ar y 3ydd llawr a bydd yn cael ei ffrydio’n fyw ar-lein.

 

Cyflwyno Cwestiwn

Croesewir cwestiynau i’r Bwrdd a gellir eu cyflwyno ymlaen llaw.

Anfonwch eich cwestiynau erbyn 5pm ddydd Llun 23 Medi 2024 trwy e-bostioPHW.CorporateGovernance@wales.nhs.uk gan ddefnyddio’r pennawd pwnc 'Cwestiwn ar gyfer y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol'.

Hygyrchedd

Os oes gennych unrhyw ofynion hygyrchedd neu ofynion eraill, peidiwch ag oedi cyn rhoi gwybod i ni. Anfonwch e-bost atom ar PHW.CorporateGovernance@wales.nhs.uk gyda'ch ceisiadau.

Edrychwn ymlaen at eich gweld chi yno, peidiwch ag anghofio archebu eich e-docyn am ddim.