Dim ond wythnos sydd i fynd tan ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ddydd Iau 25 Gorffennaf yng Nghasnewydd.
Mae'n gyfle i gwrdd ag aelodau o'n Bwrdd a chlywed am ein gwaith. Bydd sesiwn holi ac ateb hefyd.
Cynhelir y cyfarfod ym Mhrifysgol De Cymru, Campws Casnewydd. Bydd marchnad o 12:30pm a chynhelir y cyfarfod cyffredinol blynyddol rhwng 13:45 a 4:00pm.
Dyma'r agenda ar gyfer y diwrnod:
12:30pm – 1:45pm – Cofrestru, rhwydweithio a’r farchnad
1.45pm – 2.00pm – Anerchiad agoriadol
2.00pm – 2.20pm – Trosolwg gan Dîm Iechyd Cyhoeddus Lleol Aneurin Bevan
2.20pm – 2.50pm – Crynodeb o gyflawniadau 2018/19 – Tracey Cooper
2.50pm – 3.00pm – Trosolwg o'r ffigurau blynyddol
3.00pm – 3.20pm – Eich Cwestiynau
4pm – Sylwadau i gloi
Mae sawl ffordd y gallwch gymryd rhan eleni:
• Gallwch ymuno â ni yn bersonol, i gofrestru e-bostiwch communications.team@wales.nhs.uk
• E-bostiwch eich cwestiynau neu eich sylwadau ymlaen llaw at communications.team@wales.nhs.uk neu drwy sianeli cyfryngau cymdeithasol Iechyd Cyhoeddus Cymru ar Twitter (@IechydCyhoeddus) a Facebook www.facebook.com/publichealthwales erbyn dydd Llun 22 Gorffennaf
• Drwy ddilyn y digwyddiad yn fyw ar Facebook gan ddefnyddio'r hashnod #PHWAGM. Os nad ydych yn gallu cael mynediad i'r ffrwd fyw yn ystod y digwyddiad oherwydd ymrwymiadau eraill, gallwch wylio'n ôl-weithredol drwy ein tudalen Facebook.