Neidio i'r prif gynnwy

Cwsmeriaid tafarn yn Wrecsam yn cael eu cynghori i fod yn wyliadwrus am symptomau Coronafeirws

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru a Chyngor Wrecsam yn cynghori unrhyw un a ymwelodd â thafarn North and South Wales Bank yn Wrecsam rhwng 9 a 20 Awst i fod yn wyliadwrus am symptomau Coronafeirws.

Os bydd cwsmeriaid yn datblygu symptomau, waeth pa mor ysgafn, dylent hunanynysu ar unwaith a gwneud cais am brawf Coronafeirws drwy fynd i www.llyw.cymru/coronafeirws, neu drwy ffonio'r gwasanaeth ffôn cenedlaethol 119.

Mae'r cyngor yn dilyn nodi tri achos a gadarnhawyd ymhlith staff yn y dafarn.  Nid oes tystiolaeth ar hyn o bryd o drosglwyddo i gwsmeriaid, ac nid oes achos wedi'i ddatgan. 

Cysylltir ag unrhyw un sy'n bodloni'r diffiniad o gyswllt uniongyrchol â'r staff yr effeithir arnynt fel rhan arferol o'r broses ar gyfer Profi, Olrhain a Diogelu, ac mae cwsmeriaid yn cael eu cynghori i fod yn wyliadwrus fel mesur rhagofalus.

Dywedodd Dr Graham Brown, Ymgynghorydd Rheoli Clefydau Trosglwyddadwy ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio gyda Chyngor Wrecsam i ymchwilio i dri achos o'r Coronafeirws ymhlith staff yn nhafarn North and South Wales Bank yn Wrecsam.

“Nid oes tystiolaeth o drosglwyddo i gwsmeriaid ar hyn o bryd, ond rydym yn cynghori unrhyw un a ymwelodd â'r dafarn rhwng 9 a 20 Awst i fod yn wyliadwrus am symptomau Coronafeirws a  threfnu prawf ar unwaith os bydd symptomau'n digwydd.

“Mae nodi'r achosion hyn yn dystiolaeth bod y strategaeth Profi, Olrhain, Diogelu yn gweithio, ac nid oes achos wedi'i ddatgan.

“Wrth i ni symud drwy gam adfer pandemig y Coronafeirws, rydym yn disgwyl gweld clystyrau mewn gwahanol leoliadau.  Rydym yn rheoli unrhyw glystyrau o'r Coronafeirws yn briodol, gan gynnwys drwy roi cyngor ynghylch atal a rheoli heintiau, a thrwy gynorthwyo'r broses o olrhain cysylltiadau lle y bo angen.

“Rydym yn atgoffa'r cyhoedd a pherchnogion busnes bod Coronafeirws yn dal i gylchredeg yn y gymuned.  Mae gan bob un ohonom ran hanfodol i'w chwarae wrth atal Coronafeirws rhag lledaenu drwy ddilyn canllawiau o ran cadw pellter cymdeithasol – sef aros dau fetr i ffwrdd oddi wrth eraill – a golchi dwylo'n rheolaidd.”