Cyhoeddwyd: 31 Rhagfyr 2020
Mae'n arferol i feirysau newid, ac mae'r amrywiad newydd ar y Coronafeirws sydd bellach yn cylchredeg yn y DU o ganlyniad i newid o'r fath.
Credwn fod yr amrywiad newydd wedi bod yn cylchredeg ers o leiaf 1 Tachwedd 2020. Hyd yma, mae mwy na 1,400 o achosion wedi'u nodi yn Lloegr, yn bennaf yn y De Ddwyrain. Ar 14 Rhagfyr mae tua 20 o achosion wedi'u cadarnhau yng Nghymru ond mae'r gwir ffigur yn debygol o fod yn uwch (cannoedd lawer).
Mae arbenigwyr yn pryderu am effaith yr amrywiad penodol hwn oherwydd pa mor gyffredin ydyw, a pha mor gyflym mae'n lledaenu.
Mae'r cyngor allweddol yn aros yr un fath – hynny yw, cadw pellter cymdeithasol o ddau fetr, golchi dwylo, a defnyddio cyfarpar diogelu personol.
Dylai gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol sicrhau bod ganddynt y cyfarpar diogelu personol cywir ar gyfer yr ardaloedd maent yn gweithio ynddynt, eu bod wedi'u hyfforddi i ddefnyddio'r cyfarpar diogelu personol a'u bod yn ei ddefnyddio'n gywir. Mae hefyd yn hanfodol sicrhau cadw at y mesurau hyn mewn ardaloedd cymunedol y tu allan i'r ardaloedd clinigol, fel mannau egwyl, ac wrth deithio i'r gwaith ac oddi yno.
Bydd. Nid yw'r newidiadau yn yr amrywiad hwn yn effeithio ar y profion cyfredol a ddefnyddir yng Nghymru a byddant yn parhau i ganfod y feirws.
Mae'r amrywiad wedi'i ganfod ym mhob rhan o Gymru.
Ar 14 Rhagfyr, mae 49 o achosion sydd wedi'u cadarnhau wedi'u canfod, ond mae’r amcangyfrifon yn awgrymu bod tua 11% o’r achosion newydd diweddar (mwy na 600) o COVID-19 yn achosion o’r amrywiad newydd.
Mae'n debygol bod yr amrywiad yn cynrychioli canran uwch fyth o achosion cyffredinol, ac mae'r ganran hon yn cynyddu dros amser.
Mae'n anodd dweud pryd dechreuodd yr amrywiad hwn gylchredeg yng Nghymru, ond rydym yn credu y gallai'r achosion cynharaf fod o tua dechrau mis Tachwedd.
Mae Cymru yn aelod o'r Tîm Rheoli Digwyddiadau cenedlaethol sy'n cyfarfod yn ddyddiol ar hyn o bryd, gyda chyfarfodydd ehangach ddwywaith yr wythnos. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cyfrannu nifer yr achosion dyddiol yn seiliedig ar ddata cyfresu, a hefyd crynodeb epidemioleg ar gyfer achosion sydd wedi’u cadarnhau. Mae Cymru wedi cyfrannu at asesiad bygythiad cyflym y Ganolfan Ewropeaidd ar gyfer Atal a Rheoli Clefydau (ECDC) o’r amrywiad hwn. Mae protocol ar gyfer dull rheoli achosion i amcangyfrif a yw ailheintio’n fwy tebygol mewn achosion o’r amrywiad wedi'i ddatblygu yng Nghymru a'i rannu i'w ddefnyddio gyda Public Health England a Gogledd Iwerddon.
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw wybodaeth i awgrymu bod angen math gwahanol o ofal ar unigolion yr effeithir arnynt gyda'r amrywiad hwn. Bydd hyn yn cael ei adolygu'n gyson.
Nac ydy, nid yw hynny'n wir. Mae'r cyfnod hunanynysu presennol a argymhellir yn berthnasol.
Bydd dadansoddiadau genomeg yn dweud wrthym ai'r amrywiad newydd ai peidio oedd y straen a heintiodd unigolyn penodol. Fodd bynnag, nid yw pob prawf positif yn cael ei gyfresu ac fel rheol mae bwlch cyn i ganlyniadau cyfresu ddod drwodd. Fodd bynnag, mae dangosyddion eraill yn rhoi syniad i ni o faint o'r amrywiad hwn sy'n bresennol yma yng Nghymru.
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw wybodaeth i awgrymu bod angen math gwahanol o ofal ar unigolion yr effeithir arnynt gyda'r amrywiad hwn. Bydd hyn yn cael ei adolygu'n gyson.
Bydd angen i chi barhau i gymryd yr holl ragofalon a amlinellir yn y canllawiau, a dylai pobl yn y grŵp sy'n agored iawn i niwed yn glinigol gymryd rhagofalon ychwanegol i leihau cyswllt ag eraill yn unol â'r cyngor a roddir gan Brif Swyddog Meddygol Cymru.
Nid dyma'r amrywiad cyntaf ar y Coronafeirws, ac mae'n annhebygol mai hwn fydd yr olaf. Bydd gwahanol amrywiadau’n cael effeithiau gwahanol ar lwybr y pandemig hwn.
Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw dystiolaeth sy'n dangos bod yr amrywiad yn fwy difrifol na feirysau blaenorol. Mae hyn yn cael ei fonitro gan oruchwyliaeth ac ymchwil barhaus.
Nid yw'r prif reolau - golchi dwylo, cadw pellter cymdeithasol, ac yn y blaen - wedi newid. Ond cyhoeddwyd cyfyngiadau cynyddol oherwydd bod yr amrywiad yn haws ei ledaenu ac oherwydd bod nifer yr achosion wedi bod yn codi.
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw dystiolaeth o unrhyw wahaniaeth rhwng yr amrywiad hwn ac eraill. Ond mae hyn yn rhywbeth a fydd yn cael ei fonitro'n fanwl wrth symud ymlaen.
Nid oes unrhyw dystiolaeth i awgrymu na fydd y brechiad hwn a gymeradwywyd i'w ddefnyddio yn y DU yn gweithio yn erbyn yr amrywiad hwn. Caiff hyn ei fonitro'n ofalus.