Cyhoedwyd: 4 Chwefror 2026
Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cadarnhau bod ymchwiliad i ddigwyddiad gwenwyn bwyd sydd wedi’i gysylltu â The Corner House Inn yn Llangynwyd, gerllaw Maesteg, bellach wedi’i gwblhau.
Aeth cyfanswm o 43 o bobl yn sâl ar ôl bwyta yn y dafarn. Cadarnhaodd profion labordy mai’r bacteria Clostridium perfringens a achosodd y salwch. Nid oes risg barhaus i’r cyhoedd a ni nodwyd achosion pellach sydd wedi’u cysylltu â’r digwyddiad hwn.
Cafodd yr ymchwiliad ei arwain gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, mewn partneriaeth â’r Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir, yr Asiantaeth Safonau Bwyd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.
Awgrymodd astudiaeth epidemiolegol mai bwyta cig fel rhan o'r cinio rhost a weiniwyd ar y diwrnod oedd ffynhonnell fwyaf tebygol yr haint.
Dywedodd Siobhan Adams, Ymgynghorydd Diogelu Iechyd:
“Hoffem ddiolch i bawb yr effeithiwyd arnynt gan y digwyddiad hwn am eu cydweithrediad a’u dealltwriaeth trwy gydol yr ymchwiliad. Hoffem hefyd ddiolch i’n sefydliadau partner am eu cefnogaeth werthfawr.
“Rydym yn ddiolchgar i’r busnes oedd ynghlwm â’r digwyddiad a wnaeth gydweithredu trwy gydol yr ymchwiliad.
“Mae’r ymchwiliad bellach wedi’i gwblhau, yn seiliedig ar y dystiolaeth sydd ar gael ac nid oes risg barhaus i bobl sy’n ymweld â’r dafarn.”
Math o facteria sy’n gallu achosi gwenwyn bwyd yw Clostridium perfringens, a elwir yn aml yn C. perfringens. Caiff ei ganfod yn gyffredin yn yr amgylchedd ac mewn cig amrwd. Gall salwch ddigwydd pan mae bwyd, yn enwedig prydau cig, yn cael ei goginio ac yna’n cael ei gadw’n gynnes am gyfnodau hir, gan ganiatáu i facteria luosogi. Mae symptomau fel arfer yn cynnwys dolur rhydd a phoen yn y stumog. Maent fel arfer yn dechrau o fewn 6 i 24 awr ar ôl bwyta’r bwyd halogedig. Mae’r rhan fwyaf o bobl yn gwella ymhen diwrnod neu ddau heb driniaeth.