Neidio i'r prif gynnwy

Croesawu rheoliadau fepio newydd wrth i'r defnydd o fêps gynyddu ymhlith pobl ifanc

5 Tachwedd 2024

Mae bron un o bob chwech o fyfyrwyr blwyddyn 11 yng Nghymru (15.9 y cant) yn defnyddio fêps yn rheolaidd, yn ôl data newydd.  Mae dros 45 y cant o fyfyrwyr ym mlwyddyn 11 yn dweud eu bod wedi rhoi cynnig ar fêp. 

Yn y cyfamser, dim ond 5.5 y cant o fyfyrwyr ym mlwyddyn 11 sydd bellach yn smygu'n rheolaidd, i lawr o 7.5 y cant yn 2021. 

Mae llai na thri y cant (2.7) o fyfyrwyr ym mlynyddoedd 7-11 yn smygu'n rheolaidd.  Mae mwyafrif y rhain hefyd yn fepio.

Mae'r data newydd hyn, gan Y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion, yn cael eu cyhoeddi wrth i Lywodraeth y DU gyflwyno Bil Tybaco a Fêps a fydd yn paratoi'r ffordd ar gyfer cyfyngiadau ar farchnata a gwerthu tybaco, fêps a chynhyrchion eraill.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn croesawu darpariaethau'r Bil newydd.  Mae’r rhain yn cynnwys gwahardd gwerthu tybaco i unrhyw un a anwyd ar ôl 1 Ionawr 2009, rhagor o bwerau i ddod â phecynnu fêps yn unol â chynhyrchion tybaco, a chryfhau gorfodi o amgylch gwerthu fêps. 

Meddai Chris Emmerson, Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Fel y mae'r data newydd hyn yn dangos, mae fepio ymhlith pobl ifanc yn cynyddu'n gyflym yng Nghymru, sy'n ddarlun tebyg i weddill y DU.  Ac, er bod fepio yn llawer llai niweidiol na smygu, mae'n bell o fod heb risgiau.

“Fel yr amlygodd gwaith ein Grŵp Ymateb i Fepio amlasiantaethol y llynedd, mae athrawon a gweithwyr ieuenctid wedi bod yn mynegi pryderon wrthym am nifer cynyddol o ddisgyblion oed ysgol sy'n cael trafferth gyda dibyniaeth ar nicotin yn anffodus.

“Mae darpariaethau'r Bil hwn yn cynrychioli camau hanfodol i ffrwyno'r cynnydd hwn.

“Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd yn croesawu darpariaethau'r Bil i godi'r oedran ar gyfer gwerthu tybaco.  Gyda chyfraddau smygu ymhlith myfyrwyr ym mlynyddoedd 7-11 yn arbennig o isel bellach, dyma gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i basio deddfwriaeth bwysig sy'n achub bywydau.”

Roedd 3,845 o farwolaethau yng Nghymru yn 2022 oherwydd smygu ar gyfartaledd, yn ôl astudiaeth ddiweddar gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.  Roedd dros 17,000 o dderbyniadau i'r ysbyty bob blwyddyn yng Nghymru i'w priodoli i smygu.

Mae'r data newydd hefyd yn dangos bod:

  • Dros chwarter o fyfyrwyr (25.7 y cant) ym mlynyddoedd saith i 11 wedi fepio bellach, i fyny o 20.5 y cant yn 2021.
  • Mae cynnydd mewn fepio ers 2021 wedi bod yn arbennig o nodedig ymhlith merched, dysgwyr blwyddyn 11 a'r rhai nad ydynt yn smygu.  Cynyddodd fepio wythnosol rhwng 2021 a 2023 ym mhob grŵp blwyddyn heblaw blwyddyn saith.
  • Mae merched (8.6 y cant) yn fwy tebygol o fepio'n rheolaidd na bechgyn (5.1 y cant).
  • Mae'r rhai ym Mlwyddyn 11 (15.9 y cant) yn fwy tebygol o fepio na'r rhai mewn grwpiau blwyddyn iau.

Mae'r data yn cael eu cyhoeddi gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ar ran y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion (SHRN).  Mae’n seiliedig ar 129,761 o ddysgwyr o flwyddyn saith i 11 o 201 o ysgolion yng Nghymru a ymatebodd i'r arolwg Iechyd a Llesiant Myfyrwyr (SHW) a weinyddwyd rhwng mis Medi a mis Rhagfyr 2023.

Gall pob smygwr yng Nghymru dderbyn cymorth am ddim, anfeirniadol i roi'r gorau iddi, gan gynnwys meddyginiaeth am ddim i roi'r gorau i smygu. Ewch i www.helpafiistopio.cymru neu ffoniwch 0800 085 2219.