Neidio i'r prif gynnwy

Creu cartrefi iachach yn allweddol i gefnogi llesiant teuluoedd yng Nghymru

Cyhoeddwyd: 5 Awst 2025

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn galw am gydweithio agosach rhwng y sectorau iechyd a thai i sicrhau y gall pob teulu yng Nghymru fyw mewn cartrefi sy'n amddiffyn ac yn hyrwyddo eu hiechyd a'u llesiant.

Adroddiad newydd a gyhoeddwyd heddiw; Llunio dyfodol cartrefi yng Nghymru sy'n iach i blant a theuluoedd fyw ynddynt Crynodeb o ymgysylltiad rhanddeiliaid, yn rhannu gweledigaeth ar gyfer dyfodol tai yng Nghymru, un lle mae cartrefi'n saff a diogel, yn fforddiadwy, ac yn cefnogi plant a theuluoedd i ffynnu. 

Mae'r adroddiad yn tynnu ar fewnwelediadau o weithdy dyfodol tai a gynhaliodd Iechyd Cyhoeddus Cymru ym mis Tachwedd 2024, a ddaeth â bron i 50 o arbenigwyr o Lywodraeth Cymru, byrddau iechyd lleol, y trydydd sector a'r byd academaidd ynghyd. Roedd y siaradwyr gwadd yn cynnwys cynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Tai Pawb. 

Defnyddiodd y gweithdy ddulliau meddwl ar gyfer y dyfodol i nodi beth sydd angen newid nawr er mwyn adeiladu tuag at system dai iachach a thecach yng Nghymru — yn enwedig i blant a theuluoedd sy'n byw mewn tlodi. 

Dywedodd Joe Rees, Uwch Swyddog Polisi Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Nid mater tai yn unig yw creu cartrefi iach, mae'n fater o iechyd y cyhoedd. Mae'r adroddiad hwn yn nodi gweledigaeth a rennir a blaenoriaethau sy'n dod i'r amlwg ar gyfer gweithredu. Gobeithiwn y bydd yn ysbrydoli pawb sy'n gweithio ym meysydd tai, iechyd, cynllunio a pholisi i gydweithio i greu cartrefi sy'n cefnogi iechyd a llesiant teuluoedd heddiw ac yn y dyfodol.” 

Mae'r adroddiad yn amlinellu sawl rhwystr mawr a nodwyd gan randdeiliaid i dai iach yng Nghymru, gan gynnwys ansawdd gwael tai, heriau fforddiadwyedd, a thenantiaethau ansicr. Mae'n tynnu sylw at yr angen i symud tuag at argaeledd cynyddol tai fforddiadwy o ansawdd a safonau uwch ar gyfer y sector rhentu preifat.  

Fodd bynnag, mae'r adroddiad hefyd yn nodi mentrau cyfredol y mae rhanddeiliaid wedi'u rhannu sy'n cynnig addewid. Mae'r rhain yn cynnwys dwy astudiaeth achos arloesol: rhaglen Cartrefi Iach Pobl Iach gan Cymru Gynnes, sy'n cefnogi aelwydydd agored i niwed gydag ymyriadau effeithlonrwydd ynni ac iechyd, a dull tai sy'n seiliedig ar drawma gan Caredig, sy'n canolbwyntio ar greu amgylcheddau mwy diogel a chefnogol i denantiaid sydd â phrofiad bywyd o drawma. 

Mae'r adroddiad hefyd yn nodi pedwar maes sy'n dod i'r amlwg ar gyfer gweithredu i gryfhau'r ddarpariaeth o dai iach yng Nghymru. Mae'r datblygiadau hyn yn cynnig cyfle unigryw i alinio ymdrechion ar draws sectorau ac i droi uchelgais yn welliannau pendant. 

Mae cartref iach yn un: 

  • Diogel a fforddiadwy 
  • Wedi'i adeiladu'n dda, wedi'i gynnal a'i gadw'n dda ac yn effeithlon o ran ynni 
  • Wedi'i leoli mewn cymdogaethau â chysylltiadau trafnidiaeth, gwasanaethau a mannau gwyrdd da 
  • Sy’n rhoi sylfaen ar gyfer sefydlogrwydd, perthyn a llesiant 

Y weledigaeth yw y dylai pob person yng Nghymru, waeth beth fo'u hincwm neu gefndir, gael mynediad at gartref o'r fath — a dim ond drwy sicrhau bod pob polisi tai a phenderfyniad ynghylch tai yn gweithio tuag at y nod hwn y gellir cyflawni hynny. 

Mae cartrefi yn rhan hanfodol o'n lleoedd bob dydd a'n hiechyd 

Mae'r gwaith hwn yn adlewyrchu cyfle ehangach i feddwl am sut y gall ein lleoedd bob dydd gefnogi iechyd a llesiant yn well. Pan fydd y lleoedd lle rydym yn byw, yn dysgu, yn siopa ac yn chwarae yn iach, mae'n haws i bawb fyw'n dda. 

Mae polisïau cynllunio a thai yn chwarae rhan allweddol wrth hyrwyddo iechyd. Drwy ganolbwyntio ar gartrefi fforddiadwy, cynnes a diogel, gallwn greu'r amodau cywir i blant a theuluoedd ffynnu. 

Mae'r dull hwn hefyd yn ategu uchelgeisiau ehangach i leihau'r gwahaniaethau annheg a diangen mewn iechyd rhwng pobl, a chefnogi llesiant trwy benderfyniadau mwy cydgysylltiedig ar draws sectorau. 

Mae'r adroddiad llawn ar gael i'w ddarllen ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru. 

https://icccgsib.co.uk/adnoddau/llunio-dyfodol-cartrefi-yng-nghymru-syn-iach-i-blant-a-theuluoedd-fyw-ynddynt-crynodeb-or-gwaith-ymgysylltu-a-rhanddeiliaid/