Neidio i'r prif gynnwy

Coronafeirws Newydd (COVID-19) yn oedi rhai o'r rhaglenni sgrinio yng Nghymru dros dro

Yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru am gynlluniau i ohirio apwyntiadau cleifion allanol nad ydynt yn rhai brys a derbyniadau a gweithdrefnau llawfeddygol nad ydynt yn rhai brys er mwyn dargyfeirio staff ac adnoddau i gefnogi'r ymateb i Coronafeirws Newydd (COVID-19), mae Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo argymhellion Iechyd Cyhoeddus Cymru i oedi rhai o'r rhaglenni sgrinio ar sail poblogaeth dros dro.
 
Mae'r argymhelliad hefyd yn seiliedig ar ganllawiau diweddar Llywodraeth y DU i atal cyswllt cymdeithasol a theithio nad ydynt yn hanfodol, arweiniad ar gyfer grwpiau sy’n agored i niwed, a chyfyngiadau ymarferol sy'n ymwneud â phrinder staff. 

Bydd hyn yn effeithio ar y rhaglenni sgrinio canlynol: Bron Brawf Cymru, Sgrinio Serfigol Cymru, Sgrinio Coluddion Cymru, Sgrinio Llygaid Diabetig Cymru a Rhaglen Sgrinio Ymlediadau Aortig Abdomenol Cymru.

Meddai Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd: 

“Wrth inni wynebu’r her o ddelio â’r pandemig hwn, llesiant pobl Cymru yw fy mhrif flaenoriaeth. Mae llawer o’r bobl sy'n mynychu rhaglenni sgrinio mewn categori risg uwch ar gyfer coronafeirws ac mae'n hanfodol ein bod yn lleihau'r risg i'r bobl hynny ar yr adeg hon. 

“Dyma oedi dros dro a byddwn yn ailddechrau’r rhaglenni hyn cyn gynted â phosibl pan fydd hi’n ddiogel gwneud hynny. Yn y cyfamser, byddwn yn annog unrhyw un a allai fod â symptomau rhai o'r cyflyrau yr ydym yn sgrinio ar eu cyfer, i gysylltu â'i feddyg teulu/meddyg teulu."
Meddai Dr Sharon Hillier, Cyfarwyddwr yr Is-adran Sgrinio, Iechyd Cyhoeddus Cymru: 

“Dyma gyfnod digynsail ac mae hwn yn argymhelliad anodd i ni ei wneud. Fodd bynnag, bydd oedi rhai o'r rhaglenni sgrinio yng Nghymru yn osgoi'r angen i gyfranogwyr ddod i gysylltiad ag eraill yn ein lleoliadau sgrinio ac rydym yn cydnabod ein bod yn gwahodd rhai cyfranogwyr sydd yn y grwpiau bregus a nodwyd. 

“Gwneir pob ymdrech i gysylltu â chyfranogwyr sydd wedi derbyn apwyntiad wedi’i amseru gennym i roi gwybod iddynt fod y clinig wedi’i ganslo. 
“Byddwn yn gwneud ein gorau glas i sicrhau y bydd cyfranogwyr sydd wedi cael eu sgrinio’n ddiweddar yn derbyn eu canlyniadau ac yn cael eu cyfeirio neu eu hasesu os bydd angen. Rydym yn bwriadu parhau i gynnig sgrinio i ddynion sydd o dan wyliadwriaeth Rhaglen Sgrinio Ymlediadau Aortig Abdomenol Cymru. Bydd hyn yn dibynnu ar ein lefelau staffio a lefelau ein cydweithwyr yn y byrddau iechyd. 

“Rydym yn bwriadu parhau â rhaglenni Sgrinio Cyn Geni Cymru, Sgrinio Smotyn Gwaed Newydd-anedig Cymru a Sgrinio Clyw Babanod Cymru, gan fod angen ymyraethau brys arnynt a gallant atal cymhlethdodau a allai effeithio ar fabanod newydd-anedig ac maent yn rhan o ofal cyn-geni ac ôl-enedigol arferol. Bydd hyn yn dibynnu ar ein lefelau staffio a lefelau ein cydweithwyr yn y byrddau iechyd. 

“Byddwn yn adolygu’r sefyllfa’n ffurfiol ymhen wyth wythnos a byddwn yn cynnal asesiad risg pellach. Bydd y rhaglenni'n gwneud cynlluniau i ail-ddechrau'r rhaglenni i gyd pan fydd yr ymateb acíwt i Coronafeirws Newydd (COVID-19) wedi dod i ben a phan fyddwn mewn sefyllfa i wneud hynny. 

“Hoffem ddiolch i chi am eich dealltwriaeth a'ch amynedd yn ystod yr adeg anodd hon."

Yn y cyfamser, ni ddylai unrhyw un sy'n poeni y gallai fod ganddo/ganddi symptomau perthnasol unrhyw un o'r cyflyrau yr ydym yn sgrinio ar eu cyfer aros i gael ei sgrinio a dylid cysylltu â'i ddarparwr/â'i darparwr gofal iechyd yn y ffordd arferol. Bydd manylion cyswllt y rhaglenni ar eich llythyr neu ar wefan y rhaglen.