Neidio i'r prif gynnwy

Ceisio barn ar safonau newydd ar gyfer iechyd a lles mewn ysgolion

Cyhoeddwyd: 23 Ionawr 2025

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn datblygu set newydd o safonau ar gyfer ymagwedd ysgol gyfan at iechyd a llesiant mewn ysgolion yng Nghymru. Rydym bellach ar gam olaf yr ymgysylltu a hoffem glywed barn partneriaid allweddol (gan gynnwys ysgolion) ar y cynigion.

Bydd y safonau newydd yn disodli'r Wobr Ansawdd Genedlaethol flaenorol sydd wedi bod yn fframwaith ar gyfer iechyd a lles mewn ysgolion ers 2009. Mae'r Safonau Cenedlaethol arfaethedig newydd ar gyfer Ysgolion Hybu Iechyd a Lles yng Nghymru wedi'u trefnu o amgylch elfennau craidd dull ysgol gyfan iechyd a lles, yn hytrach na phynciau iechyd a ddiffiniwyd ymlaen llaw. Maent yn cynnig y cyfle i ysgolion nodi eu blaenoriaethau iechyd eu hunain. Maent hefyd yn helpu ysgolion i ymarfer hunanarfarnu a chynllunio gweithredu i annog gwelliant parhaus.

Mae’r safonau’n gosod llinell sylfaen ar gyfer ysgolion y gallwn ddisgwyl yn rhesymol i bob ysgol ei chyflawni dros amser.

Mae 22 o safonau arfaethedig wedi’u trefnu ar draws saith maes cydrannol craidd:

  • Arweinyddiaeth, ymrwymiad a llywodraethu
  • Deall angen a gwerthuso gweithredu
  • Cynnwys, ymgysylltu a chyfathrebu
  • Y Gweithlu
  • Diwylliant ac amgylchedd yr ysgol
  • Cwricwlwm
  • Cymorth a gwasanaethau Cymorth a Chefnogaeth

Mae cyfres o ddatganiadau 'beth mae hyn yn ei olygu' yn cyd-fynd â phob safon arfaethedig. Mae’r datganiadau’n rhoi disgrifiad manwl o'r ymddygiadau a'r arferion sydd eu hangen i ymgorffori’r safon yn llawn. 

Dywedodd Lorna Bennett yr Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus:

“RRydym yn edrych ymlaen at glywed barn partneriaid allweddol, gan gynnwys ysgolion. Mae’r safonau arfaethedig wedi’u datblygu yn dilyn cyfnod helaeth o adolygu tystiolaeth ac ymgynghori a nawr rydym yn awyddus iawn i glywed barn y rhai a fydd yn gweithio gyda’r safonau. Ein nod yw i bob ysgol yng Nghymru allu ymgorffori’r safonau sy’n gweithio orau iddyn nhw fel y gallant wella canlyniadau iechyd a llesiant eu hysgol.”

Gallwch gael manylion llawn y safonau arfaethedig yma. Byddwch hefyd yn gallu cyflwyno ffurflen i roi adborth i ni ar y cynigion.