Neidio i'r prif gynnwy

Cefnogaeth gref gan y cyhoedd ar gyfer camau gweithredu'r llywodraeth yn erbyn gordewdra

Mae arolwg newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos cefnogaeth gref gan y cyhoedd yng Nghymru ar gyfer camau gweithredu gan y llywodraeth i wneud y bwyd rydym yn ei brynu yn iachach. 

Yn yr arolwg, mae 57 y cant o bobl yn cytuno y dylai llywodraethau ddefnyddio dulliau gweithredu ariannol fel trethi i leihau siwgr mewn bwydydd sydd â lefelau uchel. Mae 29 y cant yn anghytuno. 

Mae 81 y cant hefyd yn credu y dylai opsiynau diodydd iach, fel dŵr neu laeth, fod yn opsiwn diofyn ar gyfer cynigion arbennig bwyd i blant.  Mae 70 y cant yn dweud y dylai hysbysebu bwyd a diodydd afiach i blant gael ei wahardd. 

Mae 84 y cant o bobl yn dweud eu bod yn bwriadu cymryd camau gweithredu o fewn y 12 mis nesaf i gyflawni neu gynnal pwysau iach - ond mae 34 y cant yn dweud y gallai gormod o demtasiynau eu  hatal rhag cymryd y camau gweithredu.  

Daw'r canfyddiadau newydd wrth i lywodraethau yng Nghymru, yr Alban  Lloegr ystyried y camau nesaf i wneud amgylcheddau bwyd yn iachach.  

Maent hefyd yn dilyn cyhoeddiad diweddar gan yr Institute for Government a amlygodd sut roedd ofnau am y canfyddiad o'r ‘wladwriaeth ymyrgar’ wedi golygu nad oedd y polisïau sydd eu hangen i helpu i fynd i'r afael â gordewdra wedi'u rhoi ar waith.  

Yng Nghymru, mae tua 60 y cant o oedolion (16 oed a throsodd) dros bwysau neu'n ordew gyda chwarter ohonynt yn cael eu hystyried yn ordew1. Mae tua thraean o blant bellach dros bwysau neu'n ordew pan fyddant yn bump oed2. 

Meddai Dr Ilona Johnson, Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru: 

“Mae gordewdra yn broblem ddifrifol iawn yng Nghymru, sy'n golygu bod ein pobl yn wynebu risg uwch y bydd glefydau cronig fel diabetes math 2, canser, clefyd y galon neu strôc yn effeithio ar ein hiechyd a'n llesiant. 

“Rydym yn gwybod bod pobl am gynnal pwysau iach, ond yn teimlo bod eu hamgylchedd yn gweithio yn eu herbyn, gan wneud dewisiadau iach yn anoddach. Mae angen i ni ei gwneud yn haws gwneud dewisiadau iach. 

“Y newyddion da o'r arolwg hwn yw bod pobl yng Nghymru am newid - ac maent eisiau i lywodraethau ysgogi'r newid hwnnw.  Mae'r arolwg yn dangos bod mwyafrif clir o blaid camau gweithredu ar ddefnyddio dulliau ariannol, gwybodaeth i gwsmeriaid, a chyfyngiadau hysbysebu i wella'r amgylchedd bwyd. 

“Mae polisïau gordewdra yn aml wedi canolbwyntio ar gyfrifoldeb unigol.  Fodd bynnag, rydym yn gwybod o'r dystiolaeth bod polisïau sy'n targedu'r amgylchedd bwyd yn effeithiol, ac mae'r arolwg hwn yn dweud wrthym bod pobl yng Nghymru yn teimlo y dylem fod yn gwneud y newidiadau hynny.” 

Roedd canfyddiadau allweddol eraill o'r arolwg yn cynnwys: 

  • Mae 58 y cant o'r farn y dylai fod yn ofynnol i fwytai roi gwybodaeth am gynnwys calorïau bwydydd fel y gall pobl wneud dewis gwybodus pan fyddant yn bwyta allan. 

  • Mae 63 y cant yn cytuno y dylai fod yn ofynnol i siopau tecawê roi gwybodaeth am gynnwys calorïau bwydydd fel y gall pobl wneud dewis gwybodus pan fyddant yn archebu. 

  • Mae 83 y cant yn dweud y dylai llywodraethau ddefnyddio dulliau ariannol i leihau pris bwydydd iachach fel ffrwythau a llysiau ffres. 

  • Mae 82 y cant yn dweud y dylai llywodraethau gymhwyso cyfyngiadau oedran ar gyfer prynu bwyd a diodydd sydd wedi'u labelu fel rhai nad ydynt yn addas i blant. 

  • Dylid defnyddio cyfreithiau cynllunio i gyfyngu ar nifer y bwytai bwyd brys ger ysgolion (mae 63 y cant yn cytuno), ac i gyfyngu ar nifer y siopau tecawê a siopau bwydydd afiach ger ysgolion (mae 60 y cant yn cytuno). 

Mae Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus yn banel o 1,007 o drigolion 16 oed a throsodd sy'n cynrychioli Cymru a sefydlwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i alluogi ymgysylltu â'r cyhoedd yn rheolaidd i lywio polisi ac ymarfer iechyd cyhoeddus.  

Gwahoddir aelodau o'r panel i gymryd rhan mewn arolygon rheolaidd a rhoi mewnwelediad i faterion iechyd cyhoeddus allweddol. 

Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn aelod o'r panel, cofrestrwch yma

 

Astudiaeth achos 

 

Mae Dave Quinn, 31 oed o Gaerdydd, yn hyfforddwr ar gyfer cynghrair pêl-droed Man v Fat ym Mhen-y-bont ar Ogwr.  Mae'n dweud ei fod wedi cael trafferth gyda'i bwysau oherwydd y ffordd mae bwyd afiach yn cael ei werthu a'i farchnata. 

Dywedodd Dave: “Mae llawer o’r bechgyn yn ei chael hi’n anodd bwyta opsiynau iachach oherwydd dydyn nhw ddim yn cael eu cyfeirio atynt. Naw gwaith allan o ddeg, y ffactor mwyaf wrth geisio colli pwysau yw cael trafferth gyda’r pethau sy’n cael eu gwthio a’u marchnata atyn nhw.” 

Dywedodd Dave fod y mater wedi effeithio'n uniongyrchol arno. “Rydych chi'n cerdded i mewn yn rhywle, a'r peth cyntaf welwch chi yw 'cael hwn am bris rhad'. Yr opsiwn afiach yw'r peth cyntaf y byddwch chi'n ei fachu pan fyddwch chi ar frys, ac rydych chi'n mynd ag ef yn ôl i'w fwyta wrth eich desg yn y gwaith. Yn y pen draw, rydych chi'n bwyta llawer mwy o galorïau nag y byddech chi fel arfer." 

“Bydda i’n stopio am goffi ar y ffordd i mewn i’r gwaith, ac yn codi brechdan, creision, efallai ychydig o siocled,” meddai Dave. “Mae’n bendant yn ‘ddiwylliant bargen pryd bwyd’, gydag opsiynau afiach yr hawsaf i gael gafael arnynt, a’r gwerth gorau am y pris. Nid yw pobl yn sylweddoli y gallant gael opsiwn iachach oherwydd ei fod yn llai cyfleus i ddod o hyd iddo.”