Mae canser yr ysgyfaint yn cynyddu ymysg menywod tra bod y cyfraddau ymysg dynion yn gostwng, yn ôl canfyddiadau newydd gan Uned Gwybodaeth ac Arolygiaeth Canser Cymru.
Mae cyfraddau ymysg menywod yn cynyddu gyflymaf mewn grwpiau economaidd-gymdeithasol is.
Mae’r canfyddiadau yn ymddangos mewn cyhoeddiad newydd, Mynychder canser yng Nghymru, 2001-2016.
Credir bod y tueddiadau gwahanol ym mynychder canser yr ysgyfaint rhwng dynion a menywod yn gysylltiedig â phatrymau smygu gwahanol rhwng y rhywiau yn hanesyddol.
Dywedodd Jyoti Atri, Cyfarwyddwr Iechyd a Llesiant:
“Mae’r tueddiadau hyn o ran canser yr ysgyfaint yn ein hatgoffa o’r cyswllt rhwng canser a smygu. Pan oedd cyfraddau smygu ymysg dynion yn gostwng yn y 1960au a’r 70au, roedd cyfraddau menywod yn cynyddu, ac mae’r patrwm hwn wedi ei adlewyrchu yn y canlyniadau hyn.”
“Gwyddom y gellid atal tua 4 mewn 10 o ganserau. Mae’r prif ffactorau risg ataliadwy yn cynnwys tybaco, gordewdra, alcohol a phrinder ffrwythau a llysiau.
“Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnig cymorth am ddim i smygwyr yng Nghymru i’w helpu i roi’r gorau iddi – gan fynd i’r afael ag un o’r prif ffactorau risg ataliadwy ar gyfer canser.
“Dylai smygwyr chwilio am Helpa Fi i Stopio, anfon neges destun Help Me Quit i 80818, neu ffonio 0800 085 2219 am gymorth am ddim i roi’r gorau i smygu gan GIG Cymru. Mae smygwyr bedair gwaith yn fwy tebygol o roi’r gorau iddi gyda chymorth gan y GIG.”
Canfu’r adroddiad, er bod nifer yr achosion newydd o ganser yn dal i gynyddu, unwaith y mae maint ac oed y boblogaeth yn cael ei ystyried, mae’r gyfradd wedi dechrau gostwng mewn blynyddoedd diweddar ar gyfer pob malaenedd ac eithrio canserau’r croen nad ydynt yn felanoma.
Y canser mwyaf cyffredin yn 2016 oedd canser y fron gyda 2851 o achosion (2830 ohonynt yn ganser y fron benywaidd) wedi ei ddilyn gan ganser y prostad (2760), yr ysgyfaint (2544) a chanser y colon a’r rhefr (2337).
Mae Uned Gwybodaeth ac Arolygiaeth Canser Cymru (WCISU) yn casglu, dadansoddi a lledaenu cyfraddau mynychder, marwolaethau a goroesi canser yn systematig er mwyn ysgogi a llywio gweithredu a gwelliant o ran atal canser, gwasanaethau iechyd a gofal, canlyniadau ac i leihau anghydraddoldebau yng Nghymru.