Neidio i'r prif gynnwy

Canllawiau newydd i helpu awdurdodau lleol i gynllunio a dylunio lleoedd iachach ledled Cymru

Cyhoeddwyd: 20 Tachwedd 2025

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi canllawiau newydd i gefnogi awdurdodau lleol yng Nghymru i ddylunio, cynllunio a chreu lleoedd sy'n galluogi pobl i fyw bywydau iachach a hapusach. 

Mae'r canllawiau Cynllunio Lleoedd Iach yn amlinellu sut y gellir gwreiddio iechyd ym mhroses y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl), sef y fframwaith cynllunio hirdymor sy'n nodi ble a sut y bydd tai, cyflogaeth, cyfleusterau, cysylltiadau trafnidiaeth, mannau gwyrdd a gwasanaethau cymunedol newydd yn cael eu lleoli. 

Mae gan yr amgylchedd adeiledig a naturiol ddylanwad sylweddol ar ein hiechyd a'n llesiant a gall helpu i leihau anghydraddoldebau iechyd. Mae mynediad at fannau gwyrdd, tai o ansawdd da, lleoedd diogel ar gyfer cerdded a beicio, a chyfleoedd i gysylltu ag eraill i gyd yn cael eu llywio gan benderfyniadau cynllunio a dylunio.  

Nod y canllawiau yw helpu gweithwyr proffesiynol ym maes cynllunio ac iechyd i gydweithio'n agosach er mwyn sicrhau bod yr ystyriaethau iechyd hyn yn cael eu rhoi wrth wraidd datblygiadau yn y dyfodol ledled Cymru. 

Mae'n rhoi cyngor ymarferol i gynllunwyr, timau iechyd y cyhoedd, a phartneriaid ar y canlynol: 

  • Defnyddio data iechyd lleol ac anghenion cymunedol i lywio polisïau cynllunio 
  • Gwreiddio blaenoriaethau iechyd a llesiant mewn Cynlluniau Datblygu Lleol 
  • Cymhwyso Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd (HIA) wrth ddrafftio neu adolygu polisïau 
  • Dylunio cymunedau sy'n cefnogi teithio llesol, mynediad at natur, cysylltiad cymdeithasol a bwyd iach 
  • Lleihau anghydraddoldebau drwy sicrhau bod pob cymuned yn elwa ar amgylcheddau iach sydd wedi'u cynllunio'n dda. 

Mae'r canllawiau yn ymateb i gydnabyddiaeth gynyddol ledled Cymru fod polisi cynllunio yn chwarae rhan allweddol wrth wella iechyd y boblogaeth a lleihau anghydraddoldebau iechyd, a bod amgylcheddau iachach yn gallu atal salwch a lleihau pwysau ar wasanaethau iechyd a gofal yn y tymor hir. 

Dywedodd Liz Green, Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae cynllunio da yng Nghymru yn fwy na dylunio. Mae’n ffordd o alluogi pobl i fyw bywydau iachach, creu cymunedau cryfach, a hwyluso mynediad at ddyfodol mwy gwyrdd. Mae cynllunio gofodol yn chwarae rhan bwysig yn ymrwymiad Cymru i wella iechyd a llesiant y cyhoedd a lleihau anghydraddoldebau. 

“Mae’r canllawiau hyn yn darparu’r offer i gynnwys iechyd mewn polisi cynllunio mewn Cynlluniau Datblygu Lleol a’r dystiolaeth i ddangos sut a pham y gall cynllunio a dylunio gysylltu mor agos â’n hiechyd a’n llesiant.” 

Bwriedir i'r canllawiau gael eu defnyddio gan dimau polisi cynllunio awdurdodau lleol, swyddogion rheoli datblygu, timau iechyd y cyhoedd lleol, Byrddau Iechyd, Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus, a datblygwyr. Gellir ei addasu hefyd i gefnogi canllawiau cynllunio atodol a gwaith polisi lleol arall. 

Cynllunio Lleoedd Iach: Canllaw i awdurdodau lleol yng Nghymru i ymgorffori iechyd mewn polisi cynllunio lleol