Cyhoeddwyd: 28 Mehefin 2025
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn croesawu cynlluniau ar gyfer rhaglen sgrinio’r ysgyfaint genedlaethol, a fydd yn galluogi diagnosis a thriniaeth gynharach o ganserau ac yn y pen draw yn achub bywydau.
Daw penderfyniad Llywodraeth Cymru i gyflwyno sgrinio ar gyfer ysmygwyr presennol a chyn-ysmygwyr rhwng 55 a 74 oed yn dilyn cyngor a gafodd ym mis Mawrth gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Bydd y gwasanaeth yn cael ei gyflwyno’n raddol. Bydd y rhai sydd ym mhen uchaf yr ystod oedran gymwys yn cael eu gwahodd yn gyntaf. Disgwylir gwahodd y cyfranogwyr cyntaf i gael eu sgrinio yn 2027.
Dywedodd Heather Lewis, Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru:
“Rydym yn croesawu penderfyniad Llywodraeth Cymru i gyflwyno rhaglen sgrinio’r ysgyfaint genedlaethol yng Nghymru. Mae tystiolaeth yn dangos y gall sgrinio darganfod canser yr ysgyfaint yn gynnar, pan fo'n haws ei drin. Mae hyn yn golygu y bydd bywydau'n cael eu hachub.
“Canser yr ysgyfaint yw prif achos marwolaethau canser yng Nghymru. Yn rhy aml caiff ei ddiagnosio'n hwyr oherwydd efallai na fydd yn achosi symptomau yn ei gamau cynnar. Mae sgrinio yn rhoi cyfle inni ei ddarganfod yn gynnar, cyn i symptomau ymddangos.
“Edrychwn ymlaen at weithio gyda chydweithwyr o bob cwr o GIG Cymru i gyflwyno gwasanaeth a fydd yn achub bywydau.”
Gofynnwyd i Iechyd Cyhoeddus Cymru roi cyngor ar gyflwyno rhaglen sgrinio’r ysgyfaint genedlaethol ar ôl iddi gael ei phrofi yng Ngogledd Rhondda.
Fel rhan o’r peilot, cynhaliwyd 600 o sganiau gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg mewn partneriaeth â'r Rhwydwaith Canser. Arweiniodd hyn at ddiagnosis o 12 o ganserau'r ysgyfaint, a darganfuwyd dwy ran o dair ohonynt yn gynnar.
Nid yw canser yr ysgyfaint yn effeithio ar bawb yn gyfartal: mae cyfraddau marwolaethau ddwywaith a hanner yn uwch yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru, yn ôl ystadegau a gyhoeddwyd ym mis Mehefin gan Uned Gwybodaeth ac Arolygaeth Canser Cymru (WCISU).
Ychwanegodd Heather Lewis: “Mae’r canlyniadau o Ogledd Rhondda yn dangos yr effaith y gall sgrinio ei chael mewn ardal o amddifadedd uwch, lle mae cyfraddau canser yr ysgyfaint yn uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol.
“Mae cyflwyno sgrinio am ganser yr ysgyfaint yn un peth y gallwn ac y mae’n rhaid i ni ei wneud i leihau anghydraddoldebau mewn marwolaethau o ganser ledled Cymru.
“Mae sgrinio’r ysgyfaint yn dangos sut y gallwn symud i wasanaeth iechyd mwy ataliol. Mae canfod salwch yn gynharach yn golygu y gall triniaeth ddechrau'n gynt, sy'n gwella canlyniadau ac yn helpu mwy o bobl yng Nghymru i fyw bywydau hirach ac iachach.”