31 Rhagfyr 2024
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn atgoffa pobl o’r camau y gallant eu cymryd i amddiffyn eu hunain, eu teuluoedd, a’u cymunedau rhag y ffliw wrth gynllunio eu dathliadau Blwyddyn Newydd.
Mae'r nodyn atgoffa yn cael ei gyhoeddi oherwydd cylchrediad firysau tymhorol fel y ffliw, Feirws Syncytiol Anadlol (RSV), a norofeirws (a elwir hefyd yn fyg chwydu'r gaeaf).
Dywedodd Wendi Shepherd, Dirprwy Gyfarwyddwr Diogelu Iechyd ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru:
“Er ein bod ni’n gobeithio y bydd pawb yn cael 2025 iach a hapus, rydyn ni’n atgoffa pobl o’r camau y gallan nhw eu cymryd i sicrhau nad ydyn nhw’n croesawu’r Flwyddyn Newydd gyda firws cas.
“Gall ffliw fod yn salwch difrifol, yn enwedig i bobl hŷn a phobl agored i niwed, a dyna pam ei bod yn bwysig bod yn effro i risgiau ffliw.
“Y peth gorau y gallwch chi ei wneud i amddiffyn eich hun a'ch anwyliaid yw trwy olchi dwylo â sebon a dŵr, a thrwy wneud yn siŵr eich bod yn gorchuddio'ch ceg a'ch trwyn â hances bapur pan fyddwch chi'n pesychu neu'n tisian. Gwaredwch eich hancesi papur yn y bin bob amser.
“Ac er y gallech chi gael eich temtio i wthio trwy salwch i fynd i barti Blwyddyn Newydd, mae’n well i bawb aros gartref os ydych chi’n sâl. Hyd yn oed os ydych chi'n teimlo'n dda, wrth gwrdd â phobl agorwch ffenestr i gyflwyno awyr iach a chael gwared ar hen aer a all gynnwys gronynnau firws.
“Ac er mwyn eich diogelu yn y tymor hwy, os ydych chi’n gymwys i gael brechiadau gaeaf, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n mynd i’ch apwyntiad gan ei fod yn un o’r dulliau mwyaf effeithiol o amddiffyn rhag mynd yn ddifrifol wael.
“Gallwch wirio a ydych yn gymwys a sut i gael eich brechlynnau ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Hyd yn oed os ydych wedi methu apwyntiad, nid yw byth yn rhy hwyr i gael eich brechu.”