Published: 15 Mawrth 2021
Wedi’i chyhoeddi heddiw (15 Mawrth, 2021), mae astudiaeth gan Iechyd Cyhoeddus Cymru sy'n edrych ar y dystiolaeth o brofi torfol ym Merthyr Tudful a Chwm Cynon, yn awgrymu mai aelwydydd yw’r ffynhonnell fwyaf sylweddol o haint, ac mae gweithio yn y sector lletygarwch neu ymweld â’r dafarn hefyd yn risgiau sylweddol. Ymddengys fod smygu neu fêpio yn cael effaith fach ond sylweddol ar drosglwyddiad hefyd.
Yn y cyfamser, ni chafwyd tystiolaeth bod lleoliadau addysg yn peri risg sylweddol o drosglwyddo’r Coronafeirws i oedolion. Yn ogystal, nid oedd yn ymddangos bod ymweld â chyfleusterau fel archfarchnadoedd, bwytai, campfeydd a chanolfannau hamdden yn cynyddu’r risg o haint
Mae'r astudiaeth yn cymryd ei chanfyddiadau o ymatebion i holiadur ar-lein a gwblhawyd gan 199 o bobl a gafodd brawf positif (achosion) a sampl o 2,621 o negyddion (rheolyddion), a holwyd cwestiynau ar ffactorau risg demograffig a chymdeithasol. Roedd y rhain yn cynnwys: oedran, ethnigrwydd, a galwedigaeth, ardal breswylio, y bobl rydych yn rhannu aelwyd â nhw, cyfrifoldebau gofalu, a rhyngweithiadau cymdeithasol dros y 10 diwrnod diwethaf.
Cynhaliwyd yr astudiaeth rhwng 21 Tachwedd a 20 Rhagfyr 2020, a chanolbwyntiodd ar ffactorau risg ar gyfer dal Coronafeirws mewn lleoliad cymunedol yn hytrach na'r risg o salwch difrifol/cyfnod yn yr ysbyty neu farwolaeth – gyda 99.6 y cant a aeth i’r peilot profi yn asymptomatig ar y pryd. Casglwyd y data pan oedd ail don y pandemig ar ei hanterth, mewn ardal oedd â rhai o’r cyfraddau heintio uchaf yn y DU.
Dyma brif ganfyddiadau’r adroddiad:
Dywedodd yr Athro Daniel Thomas, Epidemiolegydd Ymgynghorol, y Ganolfan Wyliadwraeth ar gyfer Clefydau Trosglwyddadwy: “Ceir tystiolaeth gynyddol bod rhai grwpiau poblogaeth yn fwy tebygol o gael eu heffeithio gan Coronafeirws difrifol gan gynnwys pobl hŷn, dynion, menywod beichiog, a phobl â chlefydau cronig neu anabledd a oedd yn bodoli eisoes. Roedd pobl mewn rhai grwpiau lleiafrifoedd ethnig a’r rhai mewn galwedigaethau sy'n wynebu'r cyhoedd hefyd wedi’u heffeithio’n anghymesur, ond nid yw'n glir a yw hyn yn gysylltiedig â risg uwch o gael Coronafeirws neu risg uwch o glefyd difrifol ar ôl iddynt gael eu heintio.
“O gymharu â’r dystiolaeth sy’n bodoli ar gyfer risgiau sy’n gysylltiedig â chyfnodau yn yr ysbyty a marwolaeth, prin yw'r wybodaeth sydd ar gael ar y ffactorau cymdeithasol, demograffig ac ymddygiadol sy’n gysylltiedig â throsglwyddiad Coronafeirws yn y gymuned.
“Mae profi torfol yn gyfle da i archwilio’r risgiau hyn drwy gynnal astudiaethau epidemiolegol ar raddfa fawr, a, gyda sampl sy'n ddigon mawr, gall ddarparu gwybodaeth i helpu i lywio a chynorthwyo’r ymateb parhaus i’r pandemig.
“Mae’r astudiaeth hon yn ein hatgoffa er nad yw’n ymddangos bod lleoliadau addysgol yn peri risg sylweddol o ran trosglwyddiad Coronafeirws, mae risg uwch o lawer o ddal y feirws gartref, mewn lleoliad lletygarwch neu yn y dafarn. Mae hyn yn atgyfnerthu’r angen i osgoi cymysgu ag aelwydydd eraill, a chadw at y cyfyngiadau Coronafeirws drwy weithio gartref os gallwch, gwisgo gorchudd wyneb lle bo angen, golchi eich dwylo’n rheolaidd a chadw dau fetr oddi wrth unrhyw un nad ydych yn byw gyda nhw.”
Cynhaliwyd y profi torfol cymunedol gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.
Dywedodd Dr Kelechi Nnoaham, Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus yng Nghwm Taf Morgannwg: “Mae’n wych gweld y wybodaeth a gasglwyd o'n rhaglen brofi dorfol ym Merthyr Tudful a Chwm Cynon yn cael ei defnyddio i gadw pobl yn ddiogel ledled Cymru. Rydym bellach yn cynnal rhaglen Brofi Gymunedol newydd yn rhanbarth Cwm Taf Morgannwg, sy’n agored i unrhyw drigolion heb symptomau COVID-19. Bydd hyn yn ein helpu i nodi ac ynysu achosion asymptomatig ac atal lledaeniad coronafeirws yn ein cymunedau. Rydym yn annog pobl i wirio gwefan eu hawdurdod lleol i gael gwybod ble y gallant gael eu profi.”
Y Ganolfan Wyliadwraeth ar gyfer Clefydau Trosglwyddadwy yw cangen ymchwilio epidemiolegol Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae’n amddiffyn y boblogaeth rhag haint drwy wyliadwraeth clefydau heintus, cymorth ar gyfer ymchwilio i achosion, darparu gwybodaeth am iechyd ac ymchwil gymhwysol.
I weld yr adroddiad llawn, ewch i; https://icc.gig.cymru/newyddion1/