Neidio i'r prif gynnwy

Asesiad Risg Iechyd, Withyhedge

Cyhoeddwyd: 15 Tachwedd 2024

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn parhau i werthuso data ansawdd aer, er mwyn gwella ein dealltwriaeth o'r potensial ar gyfer niwed i iechyd pobl sy'n byw o amgylch safle tirlenwi Withyhedge. Dechreuodd y monitro ansawdd aer yn gynharach eleni, ar ôl i Cyfoeth Naturiol Cymru gael nifer fawr o gwynion gan aelodau o'r cyhoedd am arogleuon yn gysylltiedig â'r safle. 

Mae ein hasesiad risg iechyd diweddaraf yn ymwneud â data ansawdd aer a gasglwyd yng ngorsaf monitro Ysgol Spittal rhwng 1 Hydref a 3 Tachwedd 2024. Yn ystod yr amser hwn, roedd adegau pan oedd y crynodiadau hydrogen sylffid yn yr aer yn uwch na gwerth canllaw annifyrrwch arogleuon Sefydliad Iechyd y Byd (5ppb / 7ug/m3). 

Rydym hefyd wedi adolygu gwaith monitro ansawdd aer gan Geotechnology mewn safleoedd eraill yn y gymuned rhwng 7 Medi a 22 Medi 2024. Nid yw'r data monitro hyn wedi cofnodi unrhyw adegau pan oedd crynodiadau hydrogen sylffid yn yr aer yn uwch na lefel annifyrrwch arogleuon Sefydliad Iechyd y Byd (5ppb / 7ug/m3). Nid yw'r monitro aer a gynhaliwyd gan Geotechnology drwy ddefnyddio tiwbiau tryledu wedi nodi lefelau hydrogen sylffid sy'n uwch na'r canllaw tymor hwy (1ppb – yn seiliedig ar amlygiad oes).

Mae'r risg iechyd hirdymor (oes) yn parhau'n isel. Fodd bynnag, rydym yn deall y gall arogleuon gwael yn eich cymuned beri gofid a hyd yn oed ar grynodiadau isel, gall arogleuon drwg arwain at ben tost/cur pen, cyfog, pendro, llygaid dyfrllyd, trwyn wedi'i rwystro, gwddf llidus, peswch neu wichian, problemau cysgu a straen. Gall hyn ddigwydd hyd yn oed pan nad yw'r sylweddau sy'n achosi'r arogl yn uniongyrchol niweidiol i iechyd. Mae'r rhain yn adweithiau cyffredin, ac fel arfer, dylai'r effeithiau hyn basio pan fydd yr arogl wedi mynd.

Gall cau ffenestri a drysau pan fydd arogleuon yn digwydd helpu i'w hatal rhag dod i mewn i gartrefi. Cofiwch beidio â rhwystro ffenestri neu fentiau yn llwyr.  Mae hyn oherwydd eu bod yn darparu aer i awyru poptai neu wresogyddion a gallant helpu i reoli lleithder. Pan fydd arogl o'r tu allan wedi pasio, bydd agor ffenestri a drysau yn helpu i gael gwared ar unrhyw arogleuon sy'n weddill.  

Mae partneriaid amlasiantaethol yn adolygu ac yn gwirio data monitro gyda'i gilydd. Yna, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn eu defnyddio i lywio asesiad risg iechyd cyn rhannu ein casgliadau â'r cyhoedd. Bydd yr asesiad risg iechyd yn parhau i gael ei adolygu a'i ddiweddaru wrth i ragor o ddata monitro gael eu rhyddhau i ni.

Rydym yn cydnabod y straen a'r gorbryder gwirioneddol y mae pobl leol yn eu dioddef o ganlyniad i'r arogleuon hyn. Fodd bynnag, nid oes gan Iechyd Cyhoeddus Cymru gyfrifoldebau rheoleiddiol na phwerau o ran rheoli neu orfodi safle, gan gynnwys monitro. Gallwn gynghori rheoleiddwyr, y cyhoedd a phartneriaid eraill, a chyfrannu at asesiadau risg iechyd cyhoeddus.