Cyhoeddwyd: 26 Gorffennaf 2024
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cadarnhau canfyddiadau o asesiad risg iechyd pellach o ddata ansawdd aer a gasglwyd o amgylch safle tirlenwi Withyhedge, sy'n cwmpasu'r cyfnod rhwng 3 Ebrill a 26 Mehefin 2024.
Mae'r data yn awgrymu bod lefelau hydrogen sylffid yn yr aer o amgylch y safle wedi bod yn uwch na chanllaw annifyrrwch arogleuon Sefydliad Iechyd y Byd ar adegau.
Felly mae cyngor Iechyd Cyhoeddus Cymru yn parhau, sef y dylai trigolion gadw drysau a ffenestri ar gau pan fo'r arogleuon yn bresennol, a cheisio cyngor meddygol os ydynt yn teimlo'n sâl.
Fel arfer, pan fydd arogleuon yn uwch na lefel canllaw annifyrrwch arogleuon Sefydliad Iechyd y Byd, mae potensial ar gyfer cwynion am arogleuon ac effeithiau iechyd. Mae pawb yn ymateb yn wahanol. I rai, gall arogleuon gwael arwain at gur pen, cosi yn y llygaid, cyfog, pendro, a blinder anarferol, hyd yn oed pan nad yw'r sylweddau sy'n achosi'r arogl eu hunain yn wenwynig niweidiol i iechyd
Mae'r rhain yn adweithiau cyffredin, ac fel arfer, dylai'r effeithiau hyn basio pan fydd yr arogl wedi mynd. Mae'r risg iechyd hirdymor (hyd oes) yn parhau i fod yn isel.
Mae hydrogen sylffid yn nwy sydd ag arogl wyau drwg. Gall ein trwynau arogli symiau bach iawn o hydrogen sylffid, hyd yn oed ar lefelau sy'n rhy isel i achosi niwed.
Mae'r cyngor iechyd cyhoeddus i'r rhai sy'n dod i gysylltiad â'r arogleuon yn parhau heb ei newid.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru o'r farn bod yn rhaid i leihau achos neu ffynhonnell arogleuon oddi ar y safle o'r safle tirlenwi fod yn flaenoriaeth er mwyn lleihau cysylltiad ac unrhyw effeithiau iechyd posibl ar y gymuned leol.
Meddai Sarah Jones, Ymgynghorydd mewn Iechyd Cyhoeddus Amgylcheddol ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru:
“Rydym yn cydnabod bod pobl leol yn parhau i bryderu o ganlyniad i'r arogleuon hyn, a bod yr adroddiad ansawdd aer hwn yn parhau i ddangos lefelau o hydrogen sylffid sy'n uwch na chanllawiau annifyrrwch arogleuon Sefydliad Iechyd y Byd.
“Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn parhau i fod yn awyddus i weld ateb i'r sefyllfa hon. Bydd yr asesiad risg iechyd yn parhau i gael ei adolygu a'i ddiweddaru wrth i ragor o ddata monitro gael eu rhyddhau i ni.”
Mae'r asesiad ansawdd aer yn seiliedig ar fonitro a wnaed gan GeoTechnology Ltd, contractwr a gyflogir gan RML, gweithredwr safle Withyhedge, mewn sawl lleoliad o amgylch safle Tirlenwi Withyhedge rhwng 3 Ebrill a 26 Mehefin 2024.