Daeth arweinwyr o bob rhan o'r sector cyhoeddus cyfan at ei gilydd ar y cyd â phartneriaid y trydydd sector mewn digwyddiad arloesol i gytuno ar ffordd ymlaen ar feysydd blaenoriaeth ar gyfer gweithredu i atal afiechyd.
Yn y digwyddiad Creu Cymru Iachach yng Nghaerdydd ddydd Mawrth 12 Mawrth gwelwyd cynrychiolwyr o faes iechyd, plismona, tai a llywodraeth leol, a'r trydydd sector yn trafod sut y gall sefydliadau weithio gyda'i gilydd i sicrhau newid mewn cymdeithas yng Nghymru.
Er mwyn cyflawni hyn, a sicrhau gweithredu Cymru Iachach yn llwyddiannus, bydd angen i bob un ohonom ar draws gwasanaethau cyhoeddus, a chyda'n partneriaid yn y trydydd sector a'r sector preifat, weithio ar y cyd ac atgyfnerthu ein hasedau i gael yr effaith fwyaf ar wella iechyd a llesiant drwy ffocws cryfach ar atal ac ymyrryd yn gynnar.
Bydd sut rydym yn gweithio'n gyda'n gilydd ac yn defnyddio ein hasedau cyfunol i alluogi'r newid hwn, gan ganolbwyntio ar nifer o flaenoriaethau seiliedig ar dystiolaeth, ar y cyd a fydd yn cael yr effaith fwyaf ar wella iechyd, yn hollbwysig o ran trawsnewid iechyd a llesiant yng Nghymru.
Cafodd y drafodaeth ei llywio gan bapur newydd sbon sy'n amlinellu meysydd blaenoriaeth ar gyfer camau ataliol.