Neidio i'r prif gynnwy

Arolwg yn datgelu y byddai wyth o bob 10 oedolyn yng Nghymru yn dymuno cael eu brechu rhag y Coronafeirws Newydd (COVID-19) pe bai brechlyn ar gael

Yn ôl yr arolwg ymgysylltu cenedlaethol diweddaraf a gynhaliwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, byddai 83 y cant o bobl am gael eu brechu rhag y Coronafeirws Newydd (COVID-19) pe bai brechlyn ar gael; ni fyddai 10 y cant am gael eu brechu ac mae 7 y cant yn ansicr. 

Ymhlith y rhai â phlant, dywedodd mwy na thri chwarter (78 y cant) y byddent am i'w plant gael eu brechu; dywedodd wyth y cant na fyddent ac mae 13 y cant yn ansicr.

Nid oes brechlyn ar gael ar hyn o bryd i ddiogelu rhag haint Coronafeirws Newydd (COVID-19), ond mae Cymru yn chwarae rhan bwysig mewn treialon brechu sy'n mynd rhagddynt ar hyn o bryd ar draws y DU.    

Mae adroddiad diweddaraf yr arolwg ymgysylltu â'r cyhoedd ar y Coronafeirws Newydd (COVID-19) gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cwmpasu'r cyfnod 20 - 26 Gorffennaf, pan gafodd 604 o bobl eu holi.

Dangosodd yr arolwg hefyd fod pobl yn gadael eu cartrefi'n amlach, yn cael mwy o gyswllt cymdeithasol ac yn defnyddio mwy o arferion hunanamddiffynnol. Dywedodd 42 y cant o bobl iddynt adael eu cartref bob dydd yn yr wythnos ddiwethaf (i fyny o 34 y cant yn wythnos 14 yr arolwg, a oedd yn cwmpasu 6 – 12 Gorffennaf). At hynny, dywedodd bron hanner (44 y cant) o bobl eu bod wedi dod i gysylltiad agos (o fewn un metr) gydag o leiaf tri o bobl o'r tu allan i'w haelwyd neu eu haelwyd estynedig yn y saith diwrnod diwethaf.

Dywedodd dros hanner (54 y cant) o bobl eu bod wedi golchi eu dwylo â sebon a dŵr neu ddefnyddio hylif diheintio dwylo fwy na 10 gwaith ar y diwrnod cyn yr arolwg – i fyny o 51 y cant yn wythnos 14.

Dangosodd y canlyniadau hefyd fod 77 y cant o bobl yn meddwl bod y cyfyngiadau sydd ar waith i reoli'r Coronafeirws Newydd (COVID-19) yn ‘iawn fwy neu lai’ (i fyny o 74 y cant yn wythnos 14).

Bob wythnos mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnal cyfweliadau â channoedd o bobl 18 oed neu drosodd ledled Cymru, i ddeall sut y mae'r Coronafeirws Newydd (COVID-19) a’r mesurau sy'n cael eu defnyddio i atal ei ledaeniad yn effeithio ar lesiant corfforol, meddyliol a chymdeithasol pobl yng Nghymru.

Meddai'r Athro Karen Hughes, sy’n cydlynu'r arolwg ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru: 

“Mae llawer iawn o waith yn mynd rhagddo i geisio datblygu brechlyn rhag COVID-19, ac mae’n gadarnhaol iawn gweld y byddai mwy nag wyth o bob 10 o bobl yng Nghymru am gael eu brechu pe bai brechlyn o'r fath ar gael. Dylai brechlyn helpu i leihau lledaeniad COVID-19 a gobeithio y byddai'n helpu i ddiogelu'r rhai sydd fwyaf agored i niwed o ran cymhlethdodau difrifol pe baent yn dal y feirws.

“Mae'r arolwg hefyd yn dangos i ni sut y mae pobl yn dechrau gadael eu cartrefi yn amlach, yn cwrdd â theulu a ffrindiau ac yn cael mwy o gyswllt cymdeithasol agos. Mae'n galonogol bod ymddygiad hunanamddiffynnol yn cynyddu hefyd, fel golchi dwylo'n rheolaidd. Fodd bynnag, mae'r bygythiad a wynebwn gan y coronafeirws yn dal i fod yn real iawn. Er mwyn llywio ein ffordd allan o'r cyfyngiadau symud yn llwyddiannus bydd angen i'r optimistiaeth a'r brwdfrydedd y mae pobl yn ei deimlo ar gyfer dychwelyd i fywyd arferol gael eu cyplysu ag ymrwymiad parhaus i ddilyn y canllawiau diweddaraf.”

Mae'r arolwg yn rhan o gyfres o fesurau a weithredir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gefnogi iechyd a llesiant y cyhoedd drwy gyfnod y Coronafeirws Newydd (COVID-19). Mae'r mesurau eraill yn cynnwys ymgyrch llesiant Iechyd Cyhoeddus Cymru o'r enw ‘Sut wyt ti?’, a grëwyd i gynorthwyo pobl Cymru i ofalu am eu llesiant a sicrhau bod iechyd y cyhoedd yn cael ei ddiogelu yn ystod y cyfnod hwn.