Cyhoeddwyd: 1 Mawrth 2021
Mae arolwg a gomisiynwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi datgelu y byddai mwy nag wyth o bob 10 (85 y cant) o drigolion Cymru yn cael brechlyn COVID-19 pe byddai'n cael ei gynnig iddynt nawr, gyda 78 y cant hefyd yn cytuno eu bod o'r farn y bydd y rhan fwyaf o bobl yng Nghymru yn cael eu brechu pan fydd brechlyn COVID-19 yn cael ei gynnig iddynt.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn comisiynu arolwg gyda YouGov bob deufis, lle bydd o leiaf 1,000 o bobl yng Nghymru yn cael eu cyfweld i ddeall teimladau'r cyhoedd am frechlynnau, yn benodol brechlynnau COVID-19 a'r ffliw.
Ar gyfer yr adroddiad cyntaf, gofynnwyd y cwestiynau ar Omnibws Cymru YouGov rhwng 4 ac 8 Chwefror 2021 gyda 1,009 o ymatebion.
Yn ôl y canfyddiadau, mae 78 y cant yn cytuno y bydd difrifoldeb eu salwch yn cael ei leihau os byddent yn dal Coronafeirws ar ôl eu brechlyn COVID-19.
Pan ofynnwyd iddynt am ddiogelwch y brechlyn, mae 77 y cant o bobl yn cytuno y bydd brechlynnau COVID-19 sy'n cael eu cymeradwyo i'w defnyddio gan y GIG yn ddiogel iawn. At hynny, mae 77 y cant o bobl yn cytuno eu bod yn gwybod digon am ddiogelwch brechlyn COVID-19 i wneud penderfyniad hyddysg ynghylch a ddylid cael brechiad ar gyfer Coronafeirws.
Dangosodd yr adroddiad hefyd fod tri chwarter (76 y cant) o'r farn bod gweithwyr iechyd proffesiynol yn ffynhonnell ddibynadwy o wybodaeth am frechlyn COVID-19, ac yna Iechyd Cyhoeddus Cymru ar 72 y cant.
Yn ogystal â chanfyddiadau YouGov, mae arolwg ymgysylltu Iechyd Cyhoeddus Cymru â'r cyhoedd bob pythefnos, sef 'Sut ydym ni yng Nghymru?' hefyd wedi datgelu bod 90 y cant o'r bobl a holwyd wedi dweud naill ai y byddant am gael brechiad Coronafeirws (60 y cant) neu eu bod eisoes wedi cael un (30 y cant). Roedd arolwg 'Sut ydym ni yng Nghymru?' yn cwmpasu'r cyfnod 15 i 21 Chwefror 2021, pan gafodd 600 o bobl eu holi.
Dywedodd Dr Richard Roberts, Pennaeth y Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:
“Brechu yw un o'r ffyrdd mwyaf effeithiol o amddiffyn ein hunain rhag COVID-19, felly mae'n galonogol iawn gweld y byddai mwy nag 8 o bob 10 o bobl yn cael brechlyn COVID-19 pe byddai'n cael ei gynnig iddynt nawr.
“Fel y gwyddom, mae'r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) wedi dweud bod yr holl dystiolaeth bresennol yn awgrymu bod y brechlynnau COVID-19 cymeradwy yn ddiogel ac yn effeithiol ac mae'r canfyddiadau diweddaraf hyn yn awgrymu'n glir bod pobl yn gwrando ar y negeseuon diogelwch, sy'n gadarnhaol dros ben.
“Fodd bynnag, mae'n bwysig cofio, hyd yn oed os ydych wedi cael eich brechu gyda dos cyntaf neu ail ddos brechlyn COVID-19, rhaid i chi barhau i ddilyn rheolau cadw pellter cymdeithasol a chanllawiau amddiffynnol eraill oherwydd gallech ledaenu'r feirws o hyd.
“Mewn adroddiadau yn y dyfodol, rydym yn gobeithio deall mwy am sut y gall canfyddiadau pobl o frechlynnau amrywio yn dibynnu ar eu hethnigrwydd, oedran a rhyw i nodi unrhyw dueddiadau allweddol a byddwn yn cyhoeddi'r data hyn pan fydd ar gael.”
Bydd adroddiad llawn YouGov yn cael ei gyhoeddi ar ficrowefan ymgyrch COVID-19 Iechyd Cyhoeddus Cymru yma.
Mae'r arolwg Sut ydym ni hefyd ar gael yma.