Cyhoeddwyd: Dydd Mercher 5 Mawrth 2025
Er i dros hanner y bobl yng Nghymru roi blaenoriaeth uchel i ofalu am eu hiechyd, mae llawer yn profi dirywiad yn eu llesiant corfforol a meddyliol, yn ôl yr arolwg Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus diweddaraf gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Pan ofynnwyd iddynt pa effaith y mae 17 ffactor gwahanol yn ei chael ar eu hiechyd, nododd ymatebwyr mai’r tair effaith bositif bennaf oedd:
Mewn cyferbyniad, adroddwyd mai’r tair effaith negyddol bennaf ar eu hiechyd oedd:
Mae'r canlyniadau'n amlygu’r angen brys am weithredu i greu amgylcheddau sy'n cefnogi gwell iechyd a llesiant a phan fydd pobl yn profi problemau iechyd, iddynt gael mynediad amserol at wasanaethau gofal iechyd
Mae'r canfyddiadau hyn yn cyd-fynd ag adroddiad diweddar Iechyd Cyhoeddus Cymru, Buddsoddi mewn Cymru Iachach, sy'n pwysleisio'r angen am fuddsoddi sy’n canolbwyntio ar atal i wella llesiant, mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd, a sicrhau gwell gwerth am arian cyhoeddus.
Canfu'r arolwg hefyd fod 53 y cant o bobl yn dweud bod eu hiechyd corfforol wedi gwaethygu dros y tair blynedd diwethaf, ac adroddodd 36 y cant ddirywiad yn eu hiechyd meddwl. Mae llawer o bobl yn ei chael hi'n anodd canolbwyntio ar eu hiechyd a'u llesiant, gyda 28% yn dweud bod eu lefelau gweithgarwch corfforol presennol yn cael effaith negyddol ar eu hiechyd.
Dywedodd Dr Paul Pilkington, Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus sy'n arwain ar weithgarwch corfforol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: "Mae gan weithgarwch corfforol fanteision ar gyfer iechyd corfforol a meddyliol, a'r hyn a welwn yn y canlyniadau hyn yw bod pobl yn gwybod am y buddion ond efallai nad yw eu hamgylchedd yn eu galluogi i fod yn egnïol.
"Mae'n bwysig i ni helpu pobl i ddod o hyd i ffyrdd realistig o symud yn fwy yn eu bywydau bob dydd. Un ffordd y gallwn wneud hyn yw drwy greu a hyrwyddo amgylcheddau gweithredol — lleoedd sy'n ei gwneud hi'n haws i bobl gerdded, beicio a bod yn actif fel rhan o'u harferion bob dydd. Gall newidiadau dyddiol bach meddylgar i fod yn egnïol, fel cerdded am 10 i 15 munud, gael manteision sylweddol."
Dywedodd Emily van de Venter, Ymgynghorydd Gwella Iechyd sy'n arwain ar lesiant meddyliol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:
"Mae ein rhaglen Hapus a lansiwyd yn ddiweddar yn darparu gofod digidol newydd sy'n llawn syniadau ac adnoddau i helpu ac ysbrydoli pobl i gymryd camau i amddiffyn a gwella’u llesiant meddyliol.
"Rydym am ei gwneud hi'n haws i bobl ddod o hyd i ffyrdd ymarferol o deimlo'n dda a gweithredu'n dda, boed hynny drwy newidiadau bach yn eu meddylfryd, stopio am funud i edrych ar natur, rhoi cynnig ar bethau newydd neu ailgysylltu â gweithgareddau sy'n dod â llawenydd iddynt. Gall gweithredoedd bach, bob dydd—fel cynnal ffiniau iach gyda'n dyfeisiau digidol, cysylltu ag eraill, neu neilltuo amser ar gyfer y pethau rydyn ni'n eu mwynhau—ein helpu ni i gyd i deimlo'n well.