Mae 96 y cant o bobl yng Nghymru bellach yn dweud eu bod bob amser yn gwisgo gorchudd wyneb mewn siopau, yn ôl yr arolwg ymgysylltu cenedlaethol diweddaraf a gynhaliwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Mae'r arolwg hefyd yn dangos bod 62 y cant o bobl yn nodi bod y rhan fwyaf neu'r cyfan o'r bobl y maent yn eu hadnabod yn dilyn y canllawiau ar gadw pellter cymdeithasol.
Meddai'r Athro Mark Bellis, Cyfarwyddwr Polisi ac Iechyd Rhyngwladol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae'n galonogol iawn gweld bod y mwyafrif helaeth o bobl yn mabwysiadu'r canllawiau ar sut i leihau lledaeniad Coronafeirws.
“Rydym yn parhau i ddysgu mwy am y feirws a’r hyn sy'n gweithio orau i'w atal a cheisio cyfathrebu gwybodaeth o'r fath i'r cyhoedd.
“Ar hyn o bryd mae ein canfyddiadau'n awgrymu bod bron traean (32 y cant) o bobl yn meddwl bod cael dolur gwddf yn rheswm dros ofyn am brawf Coronafeirws. Nid yw hyn yn wir a dim ond os oes gennych beswch cyson newydd, tymheredd uchel neu golli neu newid o ran eich synnwyr blasu neu arogli y dylech gael prawf ar gyfer y Coronafeirws.”
Mewn canlyniadau eraill, mae ychydig dros un o bob pump (21 y cant) o bobl wedi bod yn poeni llawer am eu hiechyd meddwl a'u llesiant, gyda 55 y cant o'r rhai â phlant yn eu haelwyd hefyd yn poeni llawer am lesiant eu plant.
Meddai'r Athro Karen Hughes, sy’n cydlynu'r arolwg ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Rydym yn byw drwy gyfnod anodd iawn ar hyn o bryd felly mae disgwyl y byddem yn gweld cynnydd yn y pryderon am iechyd meddwl a llesiant.
“Mae llawer o gymorth ar gael ar-lein i bobl sy'n poeni am eu hiechyd meddwl a'u llesiant yn ystod Coronafeirws, ac mae pethau y gallwn i gyd eu gwneud i ofalu am sut rydym yn teimlo.
“Cofiwch fod cadw'n dawel drwy ddefnyddio dull CALM yn help mawr. Ystyr CALM yw:
C – gweithgareddau i dawelu'ch meddwl i wneud i chi deimlo'n well
A – rhoi sylw i anghenion sylfaenol i helpu eich corff
L – dysgu i ailfeddwl i helpu eich meddyliau
M – gwneud i'ch hun deimlo'n dda i helpu'r hyn rydych yn ei wneud o ddydd i ddydd
“Mae rhagor o adnoddau i gefnogi iechyd meddwl a llesiant o'r ymgyrch Sut Wyt Ti yn www.phw.nhs.wales/howareyoudoing Os oes gennych bryderon difrifol am eich iechyd meddwl cysylltwch â'ch meddyg teulu.”
Mae adroddiad diweddaraf yr arolwg ymgysylltu â'r cyhoedd ar y Coronafeirws Newydd (COVID-19) gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cwmpasu'r cyfnod 21 - 27 Medi, pan gafodd 601 o bobl eu holi.
Bob pythefnos mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnal cyfweliadau â channoedd o bobl 18 oed neu drosodd ledled Cymru, i ddeall sut y mae'r Coronafeirws Newydd (COVID-19) a’r mesurau sy'n cael eu defnyddio i atal ei ledaeniad yn effeithio ar lesiant corfforol, meddyliol a chymdeithasol pobl yng Nghymru.
Mae'r arolwg yn rhan o gyfres o fesurau a weithredir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gefnogi iechyd a llesiant y cyhoedd drwy gyfnod y Coronafeirws.
Mae'r adroddiad llawn ar gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.