Mae arolwg a ryddhawyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi datgelu bod 76 y cant o bobl yn credu eu bod yn fwy tebygol o ddal Coronafeirws oddi wrth bobl nad ydynt yn eu hadnabod, fel pobl mewn siopau, archfarchnadoedd a mannau cyhoeddus, yn hytrach na'u teulu neu ffrindiau.
Meddai'r Athro Mark Bellis, Cyfarwyddwr Polisi ac Iechyd Rhyngwladol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Er nad oes data penodol ar gyfer Cymru ar ba leoliadau sydd fwyaf ffafriol ar gyfer trosglwyddo'r feirws, mae'n ymddangos yn gynyddol bod llawer o'r trosglwyddo, ac efallai'r rhan fwyaf ohono, yn digwydd drwy gymdeithasu, a rhyngweithio rhwng aelwydydd. Dyna pam mae llawer o gyfyngiadau'n canolbwyntio ar leihau'r cyswllt rhwng aelwydydd yn aml yng nghartrefi pobl a mannau caeedig eraill.”
Mae canfyddiadau eraill yn dangos bod 27 y cant o bobl wedi bod yn poeni llawer am eu hiechyd meddwl a'u llesiant; cynnydd ers wythnos diwethaf yr arolwg pan oedd y ffigur yn 21 y cant.
Dywedodd Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg: “Mae canfyddiadau arolwg Sut Wyt Ti yng Nghymru yn dangos pwysigrwydd gofalu am ein hiechyd meddwl a'n llesiant ein hunain, a chefnogi ein teulu a'n ffrindiau lle bynnag y bo modd.
“Mae'r cyfyngiadau sydd ar waith yno er ein diogelwch ni ond mae effaith anochel ar iechyd meddwl a llesiant, yn enwedig wrth i ni nesáu at fisoedd y gaeaf pan fydd yn fwy anodd i rai pobl gyfarfod yn yr awyr agored.
“Rydym wedi buddsoddi yng ngwasanaeth therapi gwybyddol ymddygiadol (CBT) ar-lein Silver Cloud sydd ar gael drwy eich meddyg teulu neu'ch gweithiwr iechyd meddwl proffesiynol, neu gallwch hunangyfeirio.
“Dylai'r rhai sydd â phroblemau iechyd meddwl gysylltu â'n Llinell Wrando a Chymorth Cymunedol (CALL) ar 0800 132 737 neu decstio 810666.”
Mae'r canfyddiadau eraill yn cynnwys:
Mae adroddiad diweddaraf yr arolwg ymgysylltu â'r cyhoedd ar y Coronafeirws Newydd (COVID-19) gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cwmpasu'r cyfnod 5 - 11 Hydref, pan gafodd 585 o bobl eu holi.
Bob pythefnos mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnal cyfweliadau â channoedd o bobl 18 oed neu drosodd ledled Cymru, i ddeall sut y mae'r Coronafeirws Newydd (COVID-19) a’r mesurau sy'n cael eu defnyddio i atal ei ledaeniad yn effeithio ar lesiant corfforol, meddyliol a chymdeithasol pobl yng Nghymru.
Mae'r arolwg yn rhan o gyfres o fesurau a weithredir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gefnogi iechyd a llesiant y cyhoedd drwy gyfnod y Coronafeirws.
Mae'r adroddiad llawn ar gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.