Neidio i'r prif gynnwy

Arolwg yn datgelu bod 91% o oedolion Cymru yn cefnogi cyfyngiadau lleol mewn ardaloedd lle mae achosion Coronafeirws ar gynnydd

Mae'r arolwg ymgysylltu cenedlaethol diweddaraf a gynhaliwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi datgelu bod 91 y cant o oedolion Cymru yn cefnogi cyfyngiadau lleol mewn ardaloedd sydd ag achosion o Coronafeirws ar gynnydd.

Daw hyn wrth i gyfyngiadau lleol newydd ddod i rym ddoe (dydd Iau 17 Medi 2020) i reoli lledaeniad y feirws yn Rhondda Cynon Taf.

Mae'r arolwg hefyd yn dangos bod 66 y cant o bobl o'r farn bod y cyfyngiadau cenedlaethol sydd ar waith i reoli Coronafeirws yn iawn, tra bod 29 y cant yn credu nad oes digon o gyfyngiadau ac mae 5 y cant yn credu eu bod yn ormodol.

Dywedodd yr Athro Mark Bellis, Cyfarwyddwr Polisi ac Iechyd Rhyngwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Oherwydd y cynnydd mewn achosion yn Rhondda Cynon Taf daeth cyfyngiadau pellach ar gyfer yr ardal honno i rym ddoe. Er y bydd hyn yn ergyd i’r bobl sy’n byw yno neu i’r sawl sydd ag anwyliaid yn yr ardal, mae’n galonogol gweld y gefnogaeth a ddangosir yn yr arolwg ar gyfer defnyddio cyfyngiadau lleol i reoli lledaeniad y feirws. ”

Mae adroddiad gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ar yr arolwg ymgysylltu cyhoeddus Coronafeirws Newydd (COVID-19) diweddaraf yn cwmpasu’r cyfnod rhwng 7 a 13 Medi 2020, pan arolygwyd 608 o bobl.

Yn ôl yr arolwg, dywed 31 y cant o’r bobl eu bod wedi magu pwysau yn ystod y cyfyngiadau Coronafeirws, er bod 23 y cant yn dweud eu bod wedi colli pwysau. Am y saith diwrnod blaenorol, dywedodd 30 y cant o'r ymatebwyr nad oeddent wedi gwneud unrhyw ymarfer corff.

Bob pythefnos, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnal cyfweliadau â channoedd o bobl 18 oed neu’n hŷn ledled Cymru, i ddeall sut mae Coronafeirws Newydd (COVID-19) a'r mesurau sy'n cael eu rhoi ar waith i’w atal rhag lledaenu, yn effeithio ar lesiant corfforol, meddyliol a chymdeithasol pobl yng Nghymru.

Dywedodd yr Athro Karen Hughes sy'n cydlynu'r arolwg ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae cadw'n egnïol, beth bynnag fo'ch oedran neu'ch gallu, yn dod â buddion gwirioneddol i'ch iechyd a'ch llesiant corfforol a meddyliol.

“Mae’r arolwg wedi dangos nad yw 43 y cant o’r bobl wedi gadael eu cartrefi o gwbl i wneud ymarfer corff yn ystod y saith diwrnod diwethaf. Bydd rhai pobl yn gwneud ymarfer corff gartref neu yn yr ardd, sy'n wych, ond nid yw pobl eraill yn gwneud unrhyw ymarfer corff o gwbl.

“Gall gwneud rhywbeth egnïol bob dydd helpu i roi rhywfaint o drefn a strwythur i’r dydd, ynghyd â rheoli eich hwyliau a'ch lefelau straen a gwella’ch cwsg. Mae hyn yn arbennig o bwysig yn ystod cyfnod Coronafeirws gan fod mwy o bobl yn aros gartref ac mae rhyngweithio cymdeithasol wedi lleihau i lawer o bobl.”

Mae'r arolwg yn rhan o gyfres o fesurau a weithredir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gefnogi iechyd a llesiant y cyhoedd yn ystod Coronafeirws. Mae mesurau eraill yn cynnwys ymgyrch llesiant Iechyd Cyhoeddus Cymru, sef ‘Sut wyt ti?’, a grëwyd i gefnogi pobl Cymru i edrych ar ôl eu llesiant ac i sicrhau bod iechyd y cyhoedd yn cael ei ddiogelu yn ystod yr adeg hon.

 

Darllenwch ganlyniadau llawn yr arolwg yma.