Neidio i'r prif gynnwy

Arolwg iechyd cyhoeddus yn datgelu y byddai un o bob pump o bobl yng Nghymru yn ceisio mynd dramor am wyliau haf eleni pe na bai cwarantin ar ôl dychwelyd

Mae arolwg gan Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi datgelu y byddai un o bob pump (21 y cant) o'r holl oedolion yn dal i geisio mynd ar wyliau dramor yr haf hwn pe na bai cyfyngiadau cwarantin ar ôl iddynt ddychwelyd.

Mae pedwar o bob 10 (43 y cant) yn dweud y byddent yn ceisio mynd i rywle yn y DU ac mae nifer tebyg (42 y cant) yn bwriadu aros gartref. Mewn blwyddyn arferol, byddai 59 y cant o'r un bobl fel arfer yn mynd dramor am wyliau haf a byddai 49 y cant yn cael gwyliau yn y DU.

Mae Arolwg Ymgysylltu â'r Cyhoedd yr wythnos hon hefyd yn nodi bod y cyhoedd yng Nghymru yn parhau'n wyliadwrus am newidiadau o ran cadw pellter cymdeithasol. Mae bron saith o bob deg (69 y cant) o bobl yn credu y dylai'r pellter cymdeithasol aros yn ddau fetr, ac mae chwarter yn credu y dylai ostwng i un metr ac mae chwech y cant yn credu y dylid ei ddileu yn llwyr.

Mae adroddiad diweddaraf yr arolwg ymgysylltu â'r cyhoedd ar y Coronafeirws Newydd (COVID-19) gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cwmpasu'r cyfnod 15 Mehefin i 21 Mehefin, pan gafodd 577 o bobl eu holi.

Pan ofynnwyd iddynt am blant yn dychwelyd i'r ysgol, dywedodd bron hanner yr ymatebwyr (47 y cant) y byddent yn bryderus iawn neu'n eithriadol o bryderus am addysg plant yn cael ei niweidio gan ysgolion yn dychwelyd i'r arferol yn rhy araf. Fodd bynnag, dros yr un cyfnod, dywedodd 54 y cant o bobl y byddent yn bryderus iawn neu'n eithriadol o bryderus am blant yn dal Coronafeirws Newydd (COVID-19) mewn ysgolion ac yn lledaenu hyn yn eu teuluoedd a'u cymunedau.

Bob wythnos mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnal cyfweliadau â channoedd o bobl 18 oed neu drosodd ledled Cymru, i ddeall sut y mae'r Coronafeirws Newydd (COVID-19) a’r mesurau sy'n cael eu defnyddio i atal ei ledaeniad yn effeithio ar lesiant corfforol, meddyliol a chymdeithasol pobl yng Nghymru.

Meddai'r Athro Mark Bellis, Cyfarwyddwr Polisi ac Iechyd Rhyngwladol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Wrth i Gymru ddechrau ei thaith ofalus allan o gyfyngiadau Coronafeirws, gallwn weld cymysgedd o safbwyntiau yn dod i'r amlwg wrth i'r cyhoedd ystyried cyfeiriad a chyflymder newid. Mae rhieni a gofalwyr yn pryderu am addysg eu plant os bydd ysgolion yn dychwelyd i'r arferol yn rhy araf ond mae hefyd yn gwbl ddealladwy bod mwy na hanner yr ymatebwyr yn poeni am eu plant yn dal y feirws ac yn ei ledaenu i'w teulu a'u cymuned.”

“Ar ôl misoedd o negeseuon swyddogol ar yr angen am gadw pellter cymdeithasol o ddau fetr gallwn weld mwy na dwy ran o dair o bobl yn parhau i'w gefnogi ond byddai un o bob pedwar o bobl yng Nghymru yn awr yn hoffi ei weld yn cael ei leihau i un metr.”

“Er bod llawer o bobl yn dal i bryderu am lacio mesurau amddiffynnol, mae'n hynod gadarnhaol gweld y byddai wyth o bob deg o bobl yn teimlo'n ddiogel yn mynd i apwyntiadau meddygol. Er bod Coronafeirws yn parhau i fod yn fygythiad i iechyd pobl, mae'n un o lawer o bryderon iechyd a wynebir gan unigolion a theuluoedd ledled Cymru ac mae'n hanfodol bod pobl yn parhau i geisio sylw meddygol am bob problem iechyd corfforol a meddyliol pryd bynnag y teimlant fod angen hynny.”

Mae'r arolwg yn rhan o gyfres o fesurau sy'n cael eu gweithredu gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gefnogi iechyd a llesiant y cyhoedd drwy gyfnod y Coronafeirws Newydd (COVID-19). Mae'r mesurau eraill a weithredwyd wedi cynnwys lansiad ymgyrch llesiant Iechyd Cyhoeddus Cymru o'r enw ‘Sut wyt ti?’, a grëwyd i gynorthwyo pobl Cymru i ofalu am eu llesiant a sicrhau bod iechyd y cyhoedd yn cael ei ddiogelu yn ystod y cyfnod ynysu.