Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi comisiynu BMG Research i gynnal arolwg ar farn a phrofiadau rhieni a phobl ifanc. Bydd yr arolwg yn helpu fel sail i gynllunio gwasanaethau a rhaglenni.
Bydd ymchwilwyr profiadol BMG Research yn cyfweld tua 150 o rieni pobl ifanc 13 i 16 oed a 150 o bobl ifanc o’r un cartrefi, ledled Cymru, gan ddefnyddio cyfweld wyneb yn wyneb gyda chymorth cyfrifiadur. Bydd cyfwelwyr BMG Research yn cyfweld mewn lleoliadau dethol rhwng yr 8fed o Orffennaf a’r 8fed o Fedi 2019 ac yn recriwtio drwy fynd o ddrws i ddrws.
Mae rhagor o wybodaeth am yr ymchwil ar gael yn: www.bmgresearch.co.uk
Am fwy o wybodaeth am yr arolwg yma, cysylltwch â Sharon Gowland yn BMG Research ar (0121) 333 6006 neu drwy anfon e-bost i sharon.gowland@bmgresearch.co.uk. Fel dewis arall, yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, gallwch gysylltu ag Anne McGowan ar 029 2010 4481 neu Anna Jones ar 029 2010 4511 neu drwy anfon e-bost i phw.vaccines@wales.nhs.uk.