Cyhoeddwyd: 21 Rhagfyr 2022
Mae gwahaniaethau parhaus yn bodoli o ran cael mynediad at dechnolegau iechyd digidol a'u defnyddio ac ymgysylltu â nhw rhwng cymunedau ac ardaloedd ledled Ewrop, yn ôl papur newydd ei gyhoeddi, wedi'i gyd-awduro gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Sefydliad Iechyd y Byd/Ewrop.
Mae ymgyngoriadau ffôn neu fideo, pyrth cleifion electronig, a defnyddio cofnodion iechyd electronig i gyd yn enghreifftiau o sut y gall technolegau digidol wella gofal iechyd i gleifion. Ond mae'r data'n dangos bod defnydd is a adroddir ar hyn o bryd ymhlith y rhai sydd ag iechyd sylfaenol gwaeth.
Mae patrymau o ran mynediad, defnydd a lefelau o ymgysylltu â thechnoleg ddigidol yn amrywio ar draws poblogaethau, gyda thystiolaeth gyson o ddefnydd uwch o dechnolegau iechyd digidol mewn ardaloedd trefol ac ymhlith unigolion o darddiad ethnig gwyn a siaradwyr Saesneg o gymharu â'r rhai o leiafrifoedd ethnig a'r rhai â rhwystrau iaith.
Roedd pobl â lefelau addysg uwch a statws economaidd uwch yn defnyddio'r technolegau hyn yn fwy, ac roedd pobl iau yn tueddu i'w defnyddio mwy nag oedolion hŷn. Ni chafwyd tystiolaeth glir ar anghydraddoldebau o ran ymgysylltu â thechnolegau iechyd digidol er bod y rhain yn debygol o fod yn amrywiol rhwng grwpiau poblogaeth.
Meddai Alisha Davies, Pennaeth Ymchwil a Gwerthuso yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:
“Mae dyfodol tecach i iechyd digidol yn ei gwneud yn ofynnol cael dealltwriaeth o fynediad at dechnolegau iechyd digidol, a'r defnydd ohonynt ac ymgysylltu â nhw.
“Mae hwn yn un o'r adolygiadau cwmpasu mwyaf cynhwysfawr o degwch mewn technolegau iechyd digidol. Mae'r canfyddiadau'n tynnu sylw at fylchau tystiolaeth pwysig ar draws 10 parth o degwch, a phwysigrwydd ymgorffori tegwch wrth ddatblygu ac integreiddio technoleg ddigidol i iechyd, er mwyn sicrhau cymaint o fanteision â phosibl ac atal canlyniadau anfwriadol.
Meddai David Novillo-Ortiz, Cynghorydd Rhanbarthol ar Ddata ac Iechyd Digidol yn Sefydliad Iechyd y Byd/Ewrop
“Mae angen mwy o ddealltwriaeth o rôl annhegwch o ran gallu pobl i gael mynediad at iechyd digidol, ei ddefnyddio ac ymgysylltu ag ef fel y gellir datblygu dyfodol tecach i iechyd digidol, gan sicrhau nad oes unrhyw un yn cael ei adael ar ôl.”
Er bod llawer o ddarparwyr gofal iechyd yn defnyddio technolegau iechyd digidol (DHT) yn gynyddol i alluogi cleifion a'r cyhoedd i reoli eu hiechyd ac ymgysylltu â systemau gofal iechyd, gall canolbwyntio ar y technolegau hyn “ehangu'r annhegwch presennol mewn iechyd yn anfwriadol, os nad yw annhegwch hysbys o ran mynediad at dechnoleg ddigidol, a'r defnydd ohoni ac ymgysylltu â hi yn cael ei ystyried a mynd i'r afael ag ef,” noda'r papur.
Mae'r awduron yn nodi meysydd allweddol ar gyfer gwaith yn y dyfodol, gan gynnwys fframwaith cyffredin i fonitro ymgysylltu â thechnoleg ddigidol ar gyfer iechyd ar draws parthau tegwch, gan fapio annhegwch mewn seilwaith digidol a mynd i'r afael â rhwystrau o ran cael mynediad at iechyd digidol, gan ddod o hyd i'r dulliau mwyaf effeithiol o feithrin sgiliau digidol i'r rhai sydd fwyaf mewn angen; a mynd i'r afael â defnyddioldeb i'r rhai sydd ag anableddau neu rwystrau iaith.
Drwy ddefnyddio a datblygu systemau iechyd digidol, ceir potensial ar gyfer manteision eang drwy ofal iechyd mwy effeithlon ac wedi'i dargedu, ac mae dulliau teg sy'n canolbwyntio ar gleifion yng nghanol cynllun gweithredu iechyd digidol Rhanbarthol Sefydliad Iechyd y Byd/Ewrop.
Mae Sefydliad Iechyd y Byd/Ewrop yn annog ei Aelod-wladwriaethau i adeiladu storfeydd o arfer da, cryfhau dulliau tegwch iechyd a chydraddoldeb rhywiol, a datblygu atebion integredig i fonitro a gwerthuso polisïau ac ymyriadau iechyd digidol.
Mae ‘Tegwch mewn technoleg iechyd digidol yn Rhanbarth Ewrop Sefydliad Iechyd y Byd: adolygiad cwmpasu’ yn crynhoi'r dystiolaeth o 22 o adolygiadau rhwng 2016 a 2022 ar annhegwch o ran mynediad at dechnolegau gofal iechyd digidol a'r defnydd ohonynt ac ymgysylltu â nhw.