Neidio i'r prif gynnwy

Archwilio effaith newid hinsawdd ar iechyd y cyhoedd yn ystod Wythnos Hinsawdd Cymru

Cyhoeddwyd: 13 Tachwedd 2024

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cefnogi Wythnos Hinsawdd Cymru , digwyddiad cenedlaethol sy’n dod â’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau, rhanddeiliaid, grwpiau cymunedol a phobl o bob rhan o Gymru ynghyd i ddysgu ac archwilio ffyrdd o fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd ac addasu iddo.

Bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnal dau ddigwyddiad ddydd Iau 14 Tachwedd i archwilio effeithiau newid hinsawdd ar bob agwedd ar ein bywydau gan gynnwys systemau iechyd a gofal cymdeithasol, cynhyrchu bwyd, ynni a thrafnidiaeth.  

Byddwn yn ffocysu ar effaith anghymesur newid hinsawdd ar gymunedau yng Nghymru drwy gydol y digwyddiadau.  

Mae Wythnos Hinsawdd Cymru yn cael ei harwain gan Lywodraeth Cymru i gefnogi ei Strategaeth Addasu i’r Hinsawdd genedlaethol newydd. Mae'r strategaeth  hon yn cyflwyno gweledigaeth o sut olwg sydd ar Gymru sydd wedi addasu’n dda i’n hinsawdd newidiol a’r camau y gallwn ni i gyd eu cymryd i gyrraedd yno. Mae'r gynhadledd rithwir pum niwrnod yn cynnwys cyfres o arbenigwyr, prif siaradwyr a sesiynau rhyngweithiol ar effaith newid hinsawdd.  

Mae mynd i’r afael ag effeithiau newid hinsawdd ar iechyd y cyhoedd yn flaenoriaeth strategol allweddol i Iechyd Cyhoeddus Cymru. 

Rebecca Masters, ymgynghorydd iechyd y cyhoedd, fydd yn cadeirio un o ddigwyddiadau dydd Iau. Dywedodd:

“Newid hinsawdd yw’r bygythiad iechyd byd-eang mwyaf y ganrif hon. Mae eisoes yn effeithio ar iechyd a llesiant pobl Cymru, a gwyddom fod rhai cymunedau yng Nghymru yn debygol o gael eu heffeithio’n fwy nag eraill.  

“Fel sefydliad iechyd y cyhoedd cenedlaethol Cymru, rydym yn gweithio i greu dyfodol sy’n diogelu pobl a’r blaned. Dyna’r rheswm pam rydym yn gweithio i ddeall a mynd i'r afael ag effaith newid hinsawdd drwy weithio gyda'n cydweithwyr ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, y sawl sy’n llywodraethu ac ar draws y gymdeithas ehangach i hyrwyddo camau gweithredu.  

“Mae Wythnos Hinsawdd Cymru yn gyfle i ymchwilio ychydig yn ddyfnach i ffyrdd y gallwn fynd i’r afael â newid hinsawdd ac addasu iddo er mwyn sicrhau y gallwn adeiladu dyfodol mwy gwydn ac iachach.” 

Mae manylion y digwyddiadau a gynhelir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ddydd Iau 14 Tachwedd isod a gallwch glicio yma i gofrestru.     

  • 10.15 – 11.15 Diogelu pobl rhag effeithiau iechyd newid hinsawdd - deall ac addasu i’r effeithiau ar iechyd   
  • 14.45 – 15.45 Cyd-fuddiannau iechyd o weithredu ar newid