Neidio i'r prif gynnwy

Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines: Iechyd Cyhoeddus Cymru 

Yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines, mae'n bleser gennym ddweud bod y staff canlynol o Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi'u gwneud yn Aelodau o Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (MBE) am eu hymdrechion yn yr ymateb i COVID-19: 

  • Dr Eleri Davies, Pennaeth y Rhaglen Heintiau a Gysylltir â Gofal Iechyd, Ymwrthedd Gwrthficrobaidd a Rhagnodi (HARP), Iechyd Cyhoeddus Cymru
  • Dr Robin Howe, Ymgynghorydd Arweiniol Proffesiynol mewn Microbioleg, Iechyd Cyhoeddus Cymru  
  • Gail Lusardi, Nyrs Ymgynghorol, Iechyd Cyhoeddus Cymru  
  • Dr Catherine Moore, Gwyddonydd Clinigol Ymgynghorol, Canolfan Feiroleg Arbenigol Cymru, a Phennaeth Datblygu Gwasanaeth Moleciwlaidd, Iechyd Cyhoeddus Cymru  
     

Dywedodd Dr Eleri Davies: “Cefais dipyn o syndod pan gefais y newyddion ‘mod i wedi f’enwebu i dderbyn MBE am fy nghyfraniad i’r ymateb COVID-19. Mae wedi bod yn gyfnod mor anodd i gynifer, ac roeddwn ond yn gwneud fy swydd yn cefnogi’r ymateb yng Nghymru fel rhan o Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r GIG ehangach yng Nghymru.”

“Mae’r tîm yma yn Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi gweithio’n ddiflino trwy’r pandemig yma, ac fe hoffwn siaro’r wobr yma gyda nhw a gyda’m teulu sydd wedi fy nghefnogi i drwy hyn i gyd. Dyma yw ein gwaith, ond mae’n arbennig iawn i dderbyn cydnabyddiaeth fel hyn – Diolch”

Dywedodd Dr Robin Howe: “Fe'm syfrdanwyd, ac roeddwn yn hynod falch pan glywais fy mod wedi cael MBE.

“Rwy'n gwybod fy mod wedi gweithio'n galed dros fisoedd diwethaf COVID, ond rwy'n gwybod hefyd bod y tîm microbioleg cyfan ledled Cymru wedi bod yn gweithio oriau hir ac wythnosau hir, o dan bwysau aruthrol i ddarparu profion o ansawdd uchel. Mae gwasanaethau patholeg, fel Microbioleg, yn arbenigwyr ‘ystafell gefn’ sy'n sail i lawer o weithgarwch y GIG ac maent yn aml yn cael eu hanghofio, ac rwy'n falch iawn o dderbyn y wobr hon fel cydnabyddiaeth o ymdrech ein tîm cyfan.”

Dywedodd Gail Lusardi, Nyrs Ymgynghorol, tîm HARP, Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Roeddwn wedi fy synnu a'm syfrdanu bod fy nghyfraniad yn ystod y pandemig wedi cael ei gydnabod fel hyn. 

“Mae'r tîm rwy'n gweithio gydag ef wedi bod yn anhygoel. Ar ôl y misoedd o oriau hir ac ymdrin â sefyllfaoedd anodd mae'r dyfarniad hwn wir yn adlewyrchu'r cyfraniad y mae arbenigwyr Atal a Rheoli heintiau wedi'i wneud. Felly rwy'n derbyn hyn nid yn unig gyda balchder i mi fy hun ond i gydnabod ymdrechion diflino'r holl dimau Atal a Rheoli Heintiau yng Nghymru a'r proffesiwn nyrsio ehangach. Diolch arbennig i fy ngŵr sydd wedi fy nghefnogi drwy'r amser heriol hwn.” 
 

Dywedodd Dr Catherine Moore: “Rydw i wrth fy modd yn derbyn MBE ond fel pawb arall yn y pandemig hwn, rwyf wedi bod yn gwneud fy ngwaith fel rwyf wedi'i wneud erioed drwy gydol fy ngyrfa.  

“Rwy'n cyflwyno fy MBE i fy nheulu nad ydynt wedi fy ngweld yn iawn ers mis Ionawr ac i bawb rwy'n gweithio gyda nhw ar draws Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn enwedig yn y Ganolfan Feiroleg Arbenigol yng Nghaerdydd. Mae eu hagwedd gadarnhaol a'u cydnerthedd parhaus drwy gydol yr hyn sy'n aml wedi bod yn adeg anodd i dîm y labordy yn parhau i'm hysbrydoli.”

Dywedodd Jan Williams, Cadeirydd y Bwrdd a Tracey Cooper, Prif Weithredwr: “Rydym mor falch o'n pobl yn Iechyd Cyhoeddus Cymru a heddiw, rydym yn arbennig o falch o Eleri, Robin, Gail a Catherine a'r proffesiynoldeb, yr arweinyddiaeth, yr ymroddiad a'r aberth y maent wedi'u dangos yn yr ymateb i COVID-19. Mae llawer o'n pobl wedi mynd y filltir ychwanegol dros y misoedd diwethaf, ac yn parhau i wneud hynny bob dydd, ac mae'n wych gweld Eleri, Robin, Gail a Catherine yn cael eu cydnabod fel cynrychiolwyr y sefydliad cyfan. 

“Ar ran gweddill y Tîm Gweithredol a Bwrdd Iechyd Cyhoeddus Cymru, hoffem eu llongyfarch a dweud diolch yn fawr iawn i bob un ohonynt, i bob un o'n cydweithwyr sydd wedi bod yn arwain ein hymateb mewn rolau tebyg ac i bawb ar draws y sefydliad am eu hymrwymiad parhaus i amddiffyn ein pobl yng Nghymru.