Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn atgoffa rhieni o ba mor bwysig yw hi bod plant ifanc yn parhau i gael eu himiwneiddiadau arferol pan gânt eu gwahodd.
Mae hyn yn hanfodol er mwyn atal achosion o glefydau difrifol yn ystod plentyndod gan gynnwys y pas a'r frech goch.
Dywedodd Dr Richard Roberts, Pennaeth y Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae'n bwysig bod rhieni'n parhau i ddod â'u plant i apwyntiadau imiwneiddio pan gânt eu gwahodd, ac yn sicrhau eu bod yn derbyn eu himiwneiddiadau mewn pryd.
“Mae ein rhaglen imiwneiddio i blant yn hanfodol wrth amddiffyn plant rhag afiechyd difrifol gan gynnwys pertwsis (y pas), y frech goch, llid yr ymennydd a niwmonia.”
Dywed Dr Roberts hefyd: “Mae rhaglenni imiwneiddio yn atal apwyntiadau meddygon teulu a derbyniadau i'r ysbyty y gellir eu hosgoi oherwydd afiechydon y gellir eu hatal trwy frechlynnau. Mae cadw plant allan o'r ysbyty yn arbennig o bwysig yn ystod ein hymateb i COVID-19.”
“Felly, rwy’n annog rhieni a gofalwyr babanod a phlant cyn ysgol, a phob menyw feichiog i barhau i fynychu eu sesiynau imiwneiddio arferol pan fydd eu practis meddyg teulu neu glinig iechyd plant yn cysylltu â nhw.
“Mae mesurau cadw pellter cymdeithasol ar waith i'ch amddiffyn chi a'r staff nyrsio sy'n rhoi’r brechlynnau ac mae gweithdrefnau rheoli heintiau priodol yn cael eu dilyn.
“Bydd eich ymwelwyr iechyd lleol yn gallu cynnig cyngor a chefnogaeth i rieni, a gall menywod beichiog gael cyngor ar imiwneiddio gan eu bydwraig.”
Fe ychwanegodd yr Athro Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru: “Mae’n amser dieithr ac ansicr i ni gyd, ond mae un peth heb newid: mae’n rhaid i iechyd a lles ein plant aros yn flaenoriaeth.
“Er efallai fod gwasanaethau yn edrych yn wahanol ac mae’r modd ry’ ni’n mynychu’r gwasanaethau hynny yn edrych a theimlo’n wahanol, mae nhw dal yno i’n gwarchod. Mi fydden ni’n annog rhieni a gofalwyr i fynychu rheiny, gan ddilyn canllawiau’r llywodraeth ar gadw pellter cymdeithasol, i sicrhau fod ein plant ni gyd, er gwaetha’r hyn sy’n digwydd led-led y byd ar hyn o bryd, yn cael y dechrau gorau posibl i fywyd.”
Ysgrifennodd Llywodraeth Cymru at bob meddyg teulu ym mis Mawrth i bwysleisio pwysigrwydd parhau â rhaglenni imiwneiddio yn ystod yr ymateb i COVID-19. Mae practisiau meddyg teulu wedi rhoi trefniadau ar waith i gynnal yn ddiogel clinigau imiwneiddio.
Mae practisiau meddyg teulu ledled Cymru wedi rhoi mesurau ar waith i sicrhau bod clinigau brechu yn gweithredu mewn ardaloedd ‘glân’ sydd wedi’u gwahanu’n ffisegol oddi wrth gleifion sy’n sâl.
Cyn mynychu sesiwn frechu, cysylltir â chleifion i wirio eu bod yn iach, a rhoddir cyfarwyddyd iddynt beidio â mynychu os ydynt yn sâl neu'n hunanynysu oherwydd yr amheuir eu bod wedi’u heintio â COVID-19.
Yng Nghymru mae rhai rhaglenni imiwneiddio wedi'u hatal ers 17 Mawrth er mwyn caniatáu cyfeirio'r adnoddau GIG sydd ar gael i'r ymdrech i frwydro yn erbyn COVID-19. Mae'r rhaglenni imiwneiddio wedi'u gohirio am y tro yn cynnwys rhaglenni oedran ysgol fel pigiadau atgyfnerthu i bobl yn eu harddegau a brechlynnau feirws papiloma dynol (HPV), brechlyn yr eryr ar gyfer y rhai rhwng 70 a 79 oed, a brechiadau teithio.
Nid yw mesurau COVID-19 yn effeithio ar gynlluniau blaenoriaeth uchel ac uchel iawn ar gyfer babanod a phlant cyn ysgol a menywod beichiog.